Mae Prosiect Forté mewn cydweithrediad â PPL Giving, yn falch iawn o gyhoeddi cyfle cyflogedig cyffrous i unigolion sydd yn dyheu i fod yn gerddor sesiwn wedi’i leoli yng Nghymru. Ym mis Mai 2024, bydd detholiad o gerddorion sesiwn a chynhyrchwyr gyda thri artist unigol MOBO yn cael y cyfle i gydweithio a recordio trac mewn stiwdio broffesiynol.
Ym mis Mai - Mehefin 2024, rydyn ni'n cyflogi naw cerddor sesiwn uchelgeisiol i gydweithio â thri artist unigol o Brosiect Forté sy'n gweithio o fewn genres MOBO i drefnu, ymarfer a recordio cân gyda chynhyrchydd mewn lleoliad stiwdio broffesiynol. Bydd artistiaid a cherddorion yn cyd-weithio gyda chynhyrchwyr ac yn cael eu bwcio ar gyfer ymarferion a recordio ddiwedd Mai / dechrau Mehefin 2024.
A’i dyma’r cyfle i chi?
Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn dyheu i fod yn gerddor sesiwn sydd wedi’u lleoli ar hyd a lled Cymru (mi fydd y sesiynau recordio yn cael ei gynnal mewn lleoliadau yn y De a’r Gogledd) ac sydd â’r gallu i weithio a pherfformio mewn genres MOBO (e.e. R&B, hip-hop, rap, soul).
Cymwysterau:
- 18+ oed
- Gydag argaeledd ar gyfer ymarferion a recordio ddiwedd mis Mai a dechrau Mehefin 2024
- Wedi'i lleoli neu'n gallu teithio i dde a gogledd Cymru
Mwy o wybodaeth am PPL:
PPL yw cwmni trwyddedu cerddoriaeth y DU ar gyfer dros 140,000 o berfformwyr a deiliaid hawliau recordio. Mae PPL yn casglu ac yn dosbarthu arian ar ran perfformwyr a chwmnïau recordio at ddefnydd eu cerddoriaeth wedi'i recordio. Mae aelodaeth PPL am ddim ac yn gyfle gwych i gerddorion sesiwn gael eu talu am eu gwaith perfformio.
Mwy o wybodaeth am Brosiect Forté:
Mae Forté Project yn gynllun datblygu artistiaid unigryw sydd wedi helpu’n llwyddiannus i ffeindio a chefnogi cerddoriaeth newydd gyffrous sy’n dod i’r amlwg o Gymru. Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r cynllun datblygu artistiaid blynyddol arloesol hwn wedi creu model cynhwysfawr i rymuso a chodi 10 act gerddorol ifanc mewn moment hollbwysig yn eu gyrfaoedd.
Tâl yn seiliedig ar gyfraddau'r Musicians Union.
DYDDIAD CAU: 07.05.24