Mae Jukebox Collective yn chwilio am artistiaid neu ymarferwyr creadigol i gyflwyno gweithdai ar gyfer eu rhaglen academi
- DAWNS
Dawnswyr, Coreograffwyr A/Neu Gyfarwyddwyr Symudiadau
Gall gweithdai ganolbwyntio ar arddull dawns benodol, sylfeini a methodoleg, coreograffi creadigol, neu weithio gyda myfyrwyr er mwyn archwilio sgiliau a thechnegau perfformio.
*Diddordeb penodol mewn ymarferwyr sydd wedi'u gwreiddio mewn diwylliant ac arddulliau dawns Pobl Ddu.
- ACTIO
Actorion
Rhannu technegau gan gynnwys; Testun, Byrfyfyrio, Adrodd Storïau ac Actio ar gyfer Camera
Gwneuthurwyr ffilm
Datblygu ffilm fer neu gorff o waith
Cyfarwyddwyr
Cyfarwyddwyr sydd am ddatblygu perfformiadau creadigol
- AMLDDISGYBLAETHOL
Ffotograffwyr, Cynllunwyr Ffasiwn, Steilwyr, Dylunwyr Graffig Ac Artistiaid Amlddisgyblaethol Eraill
Cyflwyno sesiynau sy’n cynnig mewnwelediad i'w ffurf gelfyddydol, rhannu arbenigedd a datblygu prosiectau creadigol.
- CERDDORIAETH
Cerddorion, Cantorion, Cyfansoddwyr Caneuon, Cynhyrchwyr, Peirianwyr Sain A Dj’s
Cyflwyno sesiynau sy’n cynnig mewnwelediad, datblygu sgiliau, prosiectau creadigol a mentoriaeth.
-----------------------------------------------------
Gofynion:
- Rhaid bod yn 18+ oed
- Profiad addysgu (dewisol ond nid yn hanfodol)
- Wedi’ch lleoli yng Nghymru a/neu’n gallu cymudo’n rheolaidd i Gaerdydd
- Anogir siaradwyr Cymraeg
- Anogir cefndiroedd ethnig mwyafrifol byd-eang
Mae hwn yn gyfle cyflogedig. Ffioedd i'w trafod, yn seiliedig ar brofiad.
Os hoffech weithio gyda ni, anfonwch atom ddatganiad o’ch diddordeb ynghyd ag enghreifftiau o’ch gwaith neu bortffolio
E-bost: Elina@jukeboxcollective.com
Gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn wrthym amdanoch chi'ch hun, eich ymarfer artistig, pam fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn a'r hyn rydych chi’n gobeithio ei gyflwyno i'n myfyrwyr.