Mae’r rhaglen Celf a'r Meddwl, sydd bellach yn ei hail flwyddyn, yn cefnogi byrddau iechyd i ehangu eu gwaith gydag artistiaid a sefydliadau celf a chynnwys gweithgareddau creadigol yn eu gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae rhieni newydd, gweithwyr iechyd a phlant ag anhwylderau bwyta ymysg y rhai i elwa ar arian newydd i saith bwrdd iechyd Cymru ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Dyma'r ail rownd o arian gan Gelf a'r Meddwl a lansiwyd y llynedd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, yn sgil tystiolaeth gynyddol o fanteision y celfyddydau ar iechyd a lles.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae arian Celf a'r Meddwl wedi ariannu gwahanol brosiectau sy'n cefnogi pobl ag iechyd meddwl gwael ar draws Cymru. Mae llwyddiannau'n cynnwys ymhlith pethau eraill: galluogi mamau a thadau newydd â chyflyrau iechyd meddwl cymedrol neu ddifrifol, megis iselder neu seicosis, i feithrin cyfeillgarwch hirdymor drwy’r prosiect ym Mlaenau Gwent; gweithwyr gofal iechyd yn Abertawe yn mynychu gweithdai celfyddydol pwrpasol i gefnogi eu hiechyd meddwl, yn enwedig yn sgil y pandemig a'r effaith a gafodd ar staff; cleifion hynod fregus ar wardiau strôc ac anafiadau i'r ymennydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i fynd at sesiynau cerddoriaeth a symudiadau sy’n helpu eu hadferiad; ysbrydoli plant ac oedolion ifanc gydag anhwylderau bwyta yn y Gorllewin i ymlacio a chael cysur drwy weithgareddau celfyddydol wyneb yn wyneb a rhithiol, fel animeiddio a dawnsio awyr.

Meddai Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru: "Bu’n wych gweld y byrddau iechyd yn dyfeisio gweithgareddau mor ddychmygus i wella bywyd pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl yng Nghymru.

“Mae'r anghenion iechyd meddwl yn niferus ac mae dulliau newydd yn cymryd amser i’w hymgorffori. Ond, mae'r neges gan gleifion yn glir: mae profiadau creadigol yn rhan hanfodol o gefnogi iechyd meddwl a lles, ac mae clinigwyr ac artistiaid yn gwrando ac ymateb. Rydym wrth ein bodd i gydweithio'n agos gyda Sefydliad Baring ar Gelf a'r Meddwl ac i weld effaith y rownd nesaf o arian i bobl ledled Cymru."

Ar ôl y flwyddyn gyntaf lwyddiannus, mae pob un o'r byrddau iechyd bellach wedi gwneud cais llwyddiannus am arian ychwanegol i ehangu eu gwaith gydag artistiaid a sefydliadau celfyddydol. Bydd y rownd ddiweddaraf o £200,000 unwaith eto yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng pob bwrdd iechyd i adeiladu ar eu llwyddiannau yn y 12 mis diwethaf. Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan y Loteri Genedlaethol - diolch i'w chwaraewyr, mae rhagor na £30 miliwn yn mynd at achosion da ledled Prydain bob wythnos, gan wneud prosiectau hanfodol fel y rhain yn bosibl.

 

DIWEDD  10 Hydref 2022

Nodiadau i’r golygydd:
 

Mae manylion o’r prosiectau a ariennir yn yr ail rownd o Gelf a'r Meddwl isod:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Prosiect Celfyddydol ac Iechyd Meddwl - Rhiant a Babi Gweithgareddau creadigol i gefnogi ymlyniad rhwng rhiant a phlentyn, gan ganolbwyntio ar rieni ag iselder ôl-enedigol a seicosis.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cefnogi drwy weithgareddau creadigol iechyd meddwl carcharorion o ddynion sy'n profi problemau iechyd meddwl na allant orffen rhan neu'r cyfan o’u dedfryd mewn carchar arferol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Y Celfyddydau Ifanc er Newid. Gweithgareddau creadigol i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc drwy fentrau’r  celfyddydau ar ragnodiad a rhagnodi cymdeithasol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Creadigrwydd ar gyfer Iechyd Meddwl. Datblygu lle’r celfyddydau mewn lles yn y gwasanaethau iechyd meddwl, gan adeiladu tuag at fframwaith rhagnodi cymdeithasol celfyddydol a chymunedol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Hwb Celf. Rhaglen gelfyddydol i wella drwy weithgareddau'r celfyddydau les plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd meddwl ysgafn neu gymedrol, sy'n aros am ymyriadau neu'n eu cael.

Bwrdd Iechyd Dysgu Powys

Gweithgareddau creadigol i gefnogi pobl sy'n profi iechyd meddwl gwael gan ganolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau, ymniweidio, atal hunanladdiad a chefnogaeth i'r rhai sydd wedi colli rhywun a laddodd ei hun.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Rhannu Gobaith. Rhaglen gelfyddydol sy'n cefnogi lles meddyliol staff, yn enwedig y rhai sydd wedi profi trawma.



Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyma’r corff cyhoeddus sy’n ariannu a datblygu'r celfyddydau. Bob dydd mae pobl ledled Cymru yn mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Cefnogwn a thyfwn y gweithgarwch drwy ddosbarthu’r arian cyhoeddus a gawn gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Drwy fuddsoddi'r arian mewn gweithgarwch creadigol, cyfrannwn at wella ansawdd bywyd pobl a lles diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Sefydliad Baring

Mae’n sefydliad annibynnol sy'n amddiffyn a datblygu hawliau dynol a hyrwyddo cynhwysiant. Ers 2020 mae'n canolbwyntio ei raglen gelfyddydol ar gyfleoedd creadigol i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Cyhoeddwn ymchwil yn rheolaidd, gan gynnwys Creatively Minded and the NHS: An overview of participatory arts offered by the NHS to people with mental health problems.  www.baringfoundation.org.uk

  • DIWEDD -