hithau’n ddiwrnod hawliau’r Gymraeg (7 Rhagfyr 2022), mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhyddhau manylion ynghylch menter a sefydlwyd ganddo ym mis Ebrill, a sydd bellach yn dwyn ffrwyth ar ei chanfed. Enw’r fenter yw’r Consortiwm Cymraeg.

Gan siarad heddiw, dywedodd Einir Siôn, Ysgogydd y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Pan gychwynnais ar fy swydd fel Ysgogydd y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru, ym mis Tachwedd 2021 roedd hi’n amlwg y byddai’n fuddiol tu hwnt cael criw o bobl ynghyd er mwyn cynghori a chefnogi fy ngwaith o fewn sector y Celfyddydau yng Nghymru. Penodwyd 12 o bobl felly sydd oll â phrofiad o ddefnyddio iaith yn greadigol o fewn eu gwaith fel cymdeithion celfyddydol – 2 ymgynghorydd artistig ar gyfer pob ffurf gelfyddydol.

“Yn dilyn hyn sefydlwyd “consortiwm” ym mis Ebrill 2022 er mwyn cynllunio datblygiadau’r Gymraeg yn y celfyddydau. Mae’r consortiwm wedi nodi pedwar maes gwaith:

  1. Gosod y Gymraeg yng nghanol creadigrwydd
  2. Llais y Lle – cronfa newydd ar gyfer unigolion i weithio’n greadigol gyda chymunedau er mwyn datblygu’r Gymraeg trwy’r celfyddydau.
  3. Cyfieithu / Dehongli ein Hunaniaeth – archwilio anghenion a chyfleoedd datblygu’r maes cyfieithu/dehongli’n greadigol
  4. Synhwyro’r iaith – creu / ychwanegu at becynnau dysgu iaith trwy’r celfyddydau gan ganolbwyntio ar fynediad at yr iaith a chodi hyder ynddi.

“Bydd canlyniadau’r gwaith yn cael eu rhannu dros y misoedd nesaf a bydd rownd gyntaf cronfa grantiau newydd Llais y Lle yn agor yn gynnar yn 2023.

“Ar ddiwrnod pwysig fel hwn, mae’n deg dweud bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi  ymrwymo i ddatblygu’r Gymraeg o fewn y celfyddydau trwy brif-ffrydio'r Gymraeg a sicrhau bod pob sefydliad ac unigolyn sy’n derbyn nawdd yn cymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth ohoni.”

Dyma rai gweithredoedd diweddar:

  • Ymgynghori a drafftio strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg a’r celfyddydau – i’w ryddhau yn ystod 2023
  • Sicrhau bod y Gymraeg yn egwyddor angenrheidiol ar gyfer adolygiad buddsoddi’r Cyngor – Cytundeb newydd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyda phenodiad Rhodri Trefor fel Cydlynydd Dysgu Cymraeg ar gyfer y celfyddydau. Dechreuodd Rhodri ar ei waith ddiwedd Awst
  • Cynnal ymchwil i ddarganfod anghenion a chyfleoedd llwybrau datblygu’r Gymraeg o fewn y celfyddydau
  • Gweithredu argymhellion adroddiad mapio’r Gymraeg
  • Cynghori sefydliadau unigol ar eu datblygiadau Cymraeg
  • Cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol o fewn y sector iaith

Aelodau’r consortiwm yw Steffan Donnelly, Rufus Mufasa, Iestyn Tyne, Laura Drane, Jên Angharad, Jeremy Turner, Esyllt Lewis, Vivian Rhule, Jonathan Milo Taylor, Iwan Williams, Eddie Ladd, Mererid Hopwood (sydd â rôl ymgynghorol).

DIWEDD                                             7 Rhagfyr, 2022