Bydd Darganfod yn galluogi athrawon yng Nghymru i ddarganfod cyfleoedd dilys a chyforiog i wella a chyfoethogi dysgu yn y celfyddydau mynegiannol ar gyfer eu plant a'u pobl ifanc sy’n 3 – 16 oed. Gallai hynny fod yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd, datblygu sgiliau creadigol a chelfyddydol neu feithrin eu lles a’u hunan-barch. Gall natur ddeinamig y celfyddydau mynegiannol ymgysylltu â disgyblion a’u hysgogi a’u hannog i ddatblygu i'r eithaf eu sgiliau perfformio a’u doniau creadigol ac artistig.

Gall ceisiadau i Ddarganfod ddod o ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth, unedau cyfeirio disgyblion a / neu sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru. Mae'r gronfa yn cynnig grantiau am hyd at £3,000 y gellir eu defnyddio i gynnal gweithgarwch ymarferol yn y celfyddydau mynegiannol, mewn ysgolion a’r tu allan iddynt gydag ymarferwyr creadigol allanol. Bydd athrawon yn gallu rhoi cyfleoedd i'w disgyblion mewn pum disgyblaeth Maes Ddysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol i archwilio, mireinio a chyfathrebu syniadau wrth feddwl yn greadigol ac ennyn eu diddordeb, sbarduno eu dychymyg a deffro eu synhwyrau.

Gall sefydliad celfyddydol neu ymarferydd creadigol ddarparu'r gweithgarwch a gall ddigwydd un ai yn yr ysgol neu mewn lleoliad addas yng Nghymru. Gall y gweithgarwch fod yn ystod oriau ysgol neu fel gweithgaredd allgyrsiol. Gall y gweithgarwch fod yn un sesiwn neu gael ei gynnal ar draws sawl diwrnod.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer ymgeisio i Ddarganfod sy'n golygu y gallwch wneud cais am arian ar unrhyw adeg.

Mae Darganfod yn cefnogi'r rhaglen ar gyfer Llywodraeth 2021-26 a'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerdd. Mae'r gronfa'n ymdrin â phum disgyblaeth: celf; dawns; drama; cerddoriaeth; ffilm a’r cyfryngau digidol.