Mae Cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dechrau ar ei daith Sioe Nadolig gyntaf ers cyn y pandemig. Comisiynwyd y cwmni theatr Likely Story o Gaerdydd i greu sioe Nadolig newydd sbon i’w theithio ledled Cymru ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

Mae Noson Allan yn gweithio gyda chwmni theatr Likely Story ers blynyddoedd lawer ac mae’n cynhyrchu sioeau gwir deuluol, gan apelio at blant a'r oedolion ar yr un pryd. Fe wnaeth y cwmni gais am grant a’i gael gan y Loteri Genedlaethol i greu'r sioe.

Crëwyd ac arweiniwyd y cwmni gan fenywod. Hazel Anderson ac Ellen Groves yw'r prif berfformwyr ers blynyddoedd lawer sy’n gwahodd eraill i ymuno â nhw pan fo angen. Enw'r sioe eleni yw "Noswyl Nadolig" ac mae'n adrodd hanes coblynnod y Nadolig yng nghanolfan lapio anrhegion ym Mhegwn y Gogledd.

Wrth sôn amdani heddiw, dywedodd pennaeth Noson Allan, Peter Gregory:

"Rydym ni’n falch iawn o allu gweithio gyda theatr Likely Story unwaith eto i greu sioe Nadolig wych am y tro cyntaf ers 2017. Mae gan y Cwmni ddealltwriaeth gynhenid o’r  anawsterau a’r cyfleoedd sy’n mynd law yn llaw gyda theithio cymunedol. Mae Noson Allan wedi mynd â nhw i amrywiaeth enfawr o gymunedau dros y blynyddoedd - o neuaddau pentref gwledig ynysig i ganolfannau cymunedol mewn ardaloedd canol dinas ac ardaloedd sy’n ddifreintiedig yn gymdeithasol. Ni fydd eleni yn wahanol.

"Rydym hefyd yn falch o allu gweithio gydag ystod eang o hyrwyddwyr, gan gynnwys saith grŵp o hyrwyddwyr ifanc mewn Ysgolion Cynradd, Gofalwyr Ifanc yn y Gogledd a’r Canolbarth, Hybiau Awdurdodau Lleol yng Nghasnewydd a rhai hyrwyddwyr newydd sbon sy’n gweithio gyda Noson Allan am y tro cyntaf. Mae hyn wedi ein galluogi i fynd â'r sioe i leoedd lle nad yw pobl fel arfer yn cael y cyfle i weld cynyrchiadau theatr proffesiynol - sef holl bwynt cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru - i helpu pobl leol i lwyfannu digwyddiadau celfyddydol o safon broffesiynol drwy logi cerddorion, cwmnïau theatr a pherfformwyr ac ar yr un pryd lleihau'r perygl ariannol iddyn nhw o wneud hynny. Mae'n ymwneud yn llwyr â chael y celfyddydau i galon y gymuned gan sicrhau felly fod y celfyddydau er lles pawb.

"Rydym yn sicr y bydd 'Noswyl Nadolig' yn cael gymaint o effaith â chynyrchiadau blaenorol ac yn rhoi ymdeimlad cynnes Nadoligaidd i gymunedau cyfan ledled Cymru gyda llawer o ysbryd Nadolig."

Dyma restr lawn o'r perfformiadau:

Dydd Mercher 23 Tachwedd 5pm - Ysgol Gynradd Trinant, Crymlyn, Caerffili

Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 5pm - Canolfan Gymunedol Glyn-coch, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf

Dydd Mawrth 29 Tachwedd 5pm - Ysgol Gynradd Phillipstown, Tredegar Newydd, Caerffili

Dydd Mercher 30 Tachwedd 4.45pm - Ysgol yr Hen Heol, Llanelli, Sir Gâr

Dydd Iau 1 Rhagfyr 6pm - Ysgol Santes Gwladys Bargod, Bargod, Caerffili

Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr 4pm - Neuadd Pentref Santes Hilari, Bro Morgannwg

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr 4pm Hwb Cymunedol Betws, Casnewydd

Dydd Mercher 7 Rhagfyr 4pm Hwb Ringland, Casnewydd

Dydd Iau 8 Rhagfyr 4pm Hwb Maesglas, Casnewydd

Dydd Gwener 9 Rhagfyr 4pm Neuadd Mileniwm Pilgwenlli, Casnewydd

Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 4pmCanolfan Gymunedol Cwmafan, Castell-nedd Port Talbot

Dydd Sul 11 Rhagfyr 2.30pmThe Talent Shack, Caerdydd

Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 6pm - Ysgol Gynradd y Trallwng, y Trallwng, Powys

Dydd Mercher 14 Rhagfyr 5.30pm Ysgol Aberconwy, Conwy

Dydd Iau 15 Rhagfyr 6pm - Ysgol Gynradd Gwy (Eglwys yng Nghymru), Powys

Dydd Gwener 16 Rhagfyr 7pm – Tŷ’r Eglwys, y Trallwng, Powys

Dydd Sadwrn 17 Rhagfyr 6.30pm – Ysgol Gatholig Crist y Gair, y Rhyl, Sir Ddinbych

Dydd Mercher 21 Rhagfyr 6pm – Neuadd Goffa Hood, y Defawden, Sir Fynwy

Dydd Iau 22 Rhagfyr 6pm - Canolfan Gymunedol Neuadd Sant Catwg, Gelligaer, Caerffili

Dydd Gwener 23 Rhagfyr 6pm – Canolfan Gymunedol Ynys y Barri, Bro Morgannwg

 

DIWEDD                          25 Tachwedd 2022