Cyngor yn sgil marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II, 8 Medi 2022

Cyngor i sefydliadau celfyddydol a diwylliannol Cymru am 12 canol dydd, 9 Medi 2022

Cyflwyniad

Dyma gyngor i artistiaid a sefydliadau celfyddydol Cymru yn sgil marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II a gyhoeddwyd toc wedi 6pm ddydd Iau 8 Medi 2022.

Y Frenhines Elizabeth oedd unig bennaeth y wladwriaeth y mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru a Phrydain wedi ei hadnabod. Nawr mae prosesau ar waith gan y Teulu Brenhinol, Llywodraethau Cymru a Phrydain a'r BBC.

Ond nid oes prosesau i’w dilyn gan sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ond eich sefydliad chi sy’n penderfynu ar y camau priodol gan ystyried:

· hwyl a barn eich cyhoedd lleol

· eich swyddogaeth yn y gymuned a’r ffaith o bosibl y cewch arian cyhoeddus

· eich cysylltiad â’r Frenhines gan gynnwys a ydych yn gweithio dan Siarter Frenhinol

Y newydd

Cyhoeddwyd cyfnod o alaru sy'n debygol o fod yn 12-13 diwrnod. Daw hyn i ben ar ddiwrnod angladd y Frenhines. Tan hynny, mae’n debyg y bydd ei harch yn gorwedd yn Neuadd San Steffan.

Bydd ei hangladd yn Abaty San Steffan a fydd fwy na thebyg yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus. Am fanylion pellach, gweler y tabl amser tebygol isod.

Ydy’ch gweithgarwch yn briodol nawr?

Dylech feddwl am yr hyn sydd yn yr arfaeth gennych – a yw’n briodol a pharchus? Er enghraifft, beth am bartïon a dathliadau? Mae’r BBC wedi gohirio rhaglenni comedi tan ar ôl y cyfnod galaru. Dylech ystyried goblygiadau ariannol o ganslo digwyddiadau (staffio, ad-dalu tocynnau ac ati). Gall hyn effeithio hefyd ar eich cyfathrebu awtomatig (trydar, e-byst, diweddariadau).

Dyma enghreifftiau posibl o beth i’w wneud:

  • rhyddhau datganiad manylach – eich pennaeth/prif weithredwr mewn dillad parch yn sôn am unrhyw gysylltiadau â’r Frenhines ar ffurf cyfweliad i’w ddarlledu?
  • llyfr cydymdeimlad yn eich cyntedd? Fel arall, mae’N bosib y byddwch chi’n dymuno cyfeirio pobl at y llyfr cydymdeimlo swyddogol ar y wefan https://www.royal.uk/send-message-condolence.
  • teyrnged ar eich gwefan neu’ch cyfryngau cymdeithasol (oriel neu ffilm o bosibl)?
  • hedfan baner ar hanner mast (dros y cyfnod galaru)?
  • cau eich lleoliad dros y cyfnod galaru?
  • cynnig cyfle i bobl gydalaru a gwylio’r angladd gyda’i gilydd?

Rhaid pwysleisio nad oes rheolau ffurfiol i'w dilyn. Eich penderfyniad chi yw sut i ymateb o ystyried eich sefydliad, eich cynulleidfa a'ch cymuned.

Gall y dolenni canlynol fod o fudd:

Mae gwybodaeth bellach ynghylch yr amserlen arfaethedig isod ar gael o ymweld â royal.uk

Mae gwybodaeth bellach ar gael o wefan Llywodraeth Cymru – https://llyw.cymru/marwolaeth-ei-mawrhydi-y-frenhines-elizabeth-ii-canllawiau-galar-cenedlaethol?_ga=2.87994136.1208661632.1662717743-924035114.1640082106

Amserlen bosibl i’r cyfnod galaru swyddogol (diolch i Newsdirect)

 

D+0 – Gwener Medi 9

  • Bydd y Brenin Charles III a'r Frenhines Gydweddog, Camilla yn dychwelyd i Lundain ddydd Gwener ar ôl aros ym Malmoral
  • Y Brenin yn cwrdd â’r Prif Weinidog mor fuan â phosibl
  • Cadarnhau cynlluniau’r angladd - bydd y Brenin yn cwrdd â'r Iarll Marshal - Dug Norfolk - sy'n gyfrifol am y trefniadau i gytuno ar yr amserlen
  • Gwyliau cyhoeddus – cyhoedda Llywodraeth Prydain y bydd diwrnod yr angladd yn ddiwrnod o alaru (sef gŵyl y banc dros Brydain)
  • Baneri – hedant ar hanner mast - heblaw’r Faner Frenhinol sy’n hedfan i’r Brenin nawr ym mhob un o’i gartrefi pan fo gartref. Nid yw Jac yr Undeb yn hedfan yno ar yr un pryd. Bydd baner yr Undeb hefyd yn chwifio ar hanner mast dros y Senedd yn Llundain. Yr Adran Dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon o Lywodraeth Prydain sy’n gyfrifol am ostwng baneri ar adeiladau llywodraethol
  • Clychau a gynnau - cenir clychau Abaty San Steffan, Eglwys Gadeiriol Sant Paul a Chastell Windsor a chlywir y gynnau - un rownd am bob blwyddyn o’i bywyd - ym Mharc Hyde a lleoedd eraill. Anogir eglwysi i ganu clychau tawel am awr o hanner dydd ddydd Gwener
  • Diffoddir llifoleuadau yn y cartrefi brenhinol
  • Aiff y Prif Weinidog ac uwch weinidogion i wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul  

D+1 – Sadwrn Medi 10

  • Am 10am bydd Cyngor yr Esgyniad i'r Orsedd yn cyfarfod ym Mhalas Iago Sant i gyhoeddi bod Charles yn Frenin
  • Yn gyntaf bydd y Cyfrin Gyngor yn cyfarfod heb Charles i’w gyhoeddi'n frenin a gwneud y trefniadau
  • Wedyn bydd Charles yn cynnal ei Gyfrin Gyngor cyntaf gyda Camilla a William, sydd hefyd yn Gwnselwyr Cyfrin. Bydd Charles yn gwneud datganiad a chymryd ei  lw
  • Darllenir y cyhoeddiad am y Brenin newydd yn yr awyr agored o falconi Llys y Brodordy ym Mhalas Iago Sant gan Frenin Arfau’r Gardas Aur
  • Cyhoeddir y newydd drwy’r dinasoedd a’r trefi
  • Aiff Jac yr Undeb i fyny i fast llawn am 1pm ac aros yno am 24 awr y cyhoeddi cyn dychwelyd i hanner mast
  • Bydd Charles hefyd yn cwrdd â'r Prif Weinidog a'r Cabinet

D+2 – Sul Medi 11

  • Aiff ei harch i Balas Holyrood yng Nghaeredin
  • Cyhoeddir y newydd yn nhai deddfu datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

 

D+3 – Llun Medi 12

  • Gorymdaith ar hyd Milltir Frenhinol Caeredin i Eglwys Gadeiriol San Silyn. Gwasanaeth a Gwylnos y Tywysogion gan aelodau o'r Teulu Brenhinol
  • Efallai bydd cyfle i’r cyhoedd fynd heibio’r arch yno
  • Cynnig o Gydymdeimlad gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn San Steffan a gallai’r Brenin fod yno hefyd
  • Rywbryd bydd y Brenin yn ymweld â’r Alban ac wedyn Cymru a Gogledd Iwerddon (‘Operation Spring Tide’)

D+4 – Mawrth Medi 13

  • Bydd yr arch yn hedfan neu fynd ar y Trên Brenhinol i Balas Buckingham
  • Bydd ymarfer o orymdaith yr arch o Balas Buckingham i Balas San Steffan

D+5 – Mercher Medi 14

  • Bydd yr arch ar gael i’w gweld am 4 diwrnod yn Neuadd San Steffan (Operation Marquee) ar ôl mynd ar orymdaith drwy Lundain
  • Bydd Archesgob Caergaint yn cynnal gwasanaeth ar ôl i’r arch gyrraedd
  • Gall pobl fynd heibio'r arch ar ei helor fel digwyddodd gynt i’r Fam Frenhines yn 2002
  • Operation Feather fynd yn rheoli'r dorf
  • Yn ystod y pandemig roedd cynllun i roi tocynnau ag amser penodol i bobl
  • Bydd uwch aelodau o’r teulu brenhinol hefyd yno ryw ben gan sefyll i warchod yr arch sef Gwylnos y Tywysogion

D+6 – Iau Medi 15

  • Cyfle’n parhau i weld yr arch ac ymarfer gorymdaith yr angladd

D+7 – Gwener Medi 16–Sul Medi 18

  • Diwedd y cyfle i weld yr arch ar D+9. Penaethiaid gwledydd yn cyrraedd am yr  angladd

D+10 – Llun Medi 19

  • Cynhelir yr angladd yn Abaty San Steffan
  • Aiff yr arch ar gerbyd gynnau wedi'i dynnu gan forwyr (nid ceffylau) i'r Abaty
  • Bydd uwch aelodau o'r teulu’n dilyn yr arch fel y gwnaethant mewn angladdau brenhinol tebyg
  • Bydd y fyddin yn ymuno â'r orymdaith
  • Caiff penaethiaid, prif weinidogion ac arlywyddion gwledydd eraill, brenhinoedd a breninesau Ewrop a phobl bwysig wahoddiad i’r Abaty a all gynnwys 2,000 o bobl
  • Darlledir y gwasanaeth a chynhelir dwy funud o dawelwch
  • Yr un diwrnod â'r angladd, cymerir yr arch i Gapel San Siôr, Castell Windsor am wasanaeth ffarwelio a ddarlledir
  • Yn y noswaith cleddir y Frenhines mewn gwasanaeth preifat yng ngŵydd ei theulu
  • Yng Nghapel Coffa'r Brenin Siôr VI fydd ei bedd - lle claddwyd ei mam, ei thad a llwch ei chwaer, y Dywysoges Margaret
  • Symudir arch Philip o'r Ddaeargell Frenhinol i'r capel coffa i orwedd gyda chorff y Frenhines