Bu’n aelod a Chadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 1999 a 2003, a chael gyrfa nodedig fel Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe ers 1990.

Gan siarad heddiw, dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Yn drist iawn rydym yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda'r newydd bod Sybil wedi marw yn dilyn brwydr hir gydag afiechyd.

“Roedd yn wraig ryfeddol - yn egnïol, bywiog a llawn ysbryd. Cyflawnodd waith gwych fel Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe a chafodd yrfa ddiwylliannol a gwleidyddol nodedig, yn cynnwys bod yn Gadeirydd Cyngor y Celfyddydau.

“Byddwn yn ei cholli’n fawr.”

Cynhelir angladd Sybil yn Eglwys St Mair, Abertawe SA1 3LP am 1pm dydd Iau 30 Ionawr.