Bydd meini’r Hen Bont Fawr yn atsain i fwrlwm creadigrwydd y Cymry ar lannau’r Tâf, wrth i’r dref groesawu Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o allu datgan eu cefnogaeth i’r Ŵyl gyda grant o bron i £100,000 yn uniongyrchol i’r Eisteddfod Genedlaethol i’w ddefnyddio i wella mynediad i’r Maes a denu cynulleidfaoedd newydd drwy ddigwyddiadau creadigol, a dros £385,000 ar gyfer gweithgareddau celfyddydol ychwanegol gan unigolion a sefydliadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Yn dilyn grant gennym llynedd, penodwyd Swyddog Hygyrchedd i’r Eisteddfod, ac eleni, bydd yn defnyddio arian ychwanegol i gynnig darpariaeth iaith arwyddo BSL a gwella’r ddarpariaeth yn y llecyn llonydd, gan sicrhau bod adnoddau addas ar draws y Maes ar gyfer ymwelwyr â gofynion niwro ac ymwelwyr ag anableddau corfforol.

Defnyddir peth o’n grant i gyflogi Cydlynydd Gwirfoddoli i ganolbwyntio ar ddenu mwy o wirfoddolwyr ieuengach. Bydd yr Eisteddfod yn ail-osod y cynnig gwirfoddoli a’i deilwra a’i hyrwyddo mewn ffordd newydd ac apelgar.

Partneriaeth lwyddiannus rhwng yr Eisteddfod a Chyngor y Celfyddydau yw Mas ar y Maes. Dyma raglen lawn o ddigwyddiadau wedi’i threfnu gan aelodau o’r gymuned LHDTC+ sy’n cynnwys sesiynau Holi ac Ateb, perfformiadau, darlleniadau, adloniant ysgafn a dramâu. Un o uchafbwyntiau Mas ar y Maes eleni yw ‘Atgof: Canrif o gariad cwiar’. Dyma ddigwyddiad golau-cannwyll sy’n cynnwys canu, cerddoriaeth, dawns a barddoniaeth i ddathlu canrif ers i E. Prosser Rhys ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-Pŵl gyda ‘Atgof, ei bryddest feiddgar  am ryw a charwriaeth hoyw,

Fel rhan o arlwy Mas ar y Maes rydym hefyd yn cefnogi cyflwyniad Theatr Genedlaethol Cymru o ‘Brên. Calon. Fi’: monolog ddoniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd gan Bethan Marlow. A bydd Cwmni’r Fran Wen yn cynnig ‘Corn Gwlad’ - sioe gerdd cwiar Gymraeg llawn gwychder.

Mae Cyngor y Celfyddydau hefyd yn cefnogi 14 digwyddiad uniongyrchol yn yr Eisteddfod. Ymysg y digwyddiadau rhain, bydd Mentrau Iaith Cymru yn nodi 50 mlynedd ers rhyddhau record Cwm Rhyd-y-Rhosyn gyda phrofiad aml-synhwyrol i'r teulu cyfan. A bron i ddegawd ers i Iphigenia in Splott, drama ddirdynnol Gary Owen swyno cynulleidfaoedd, bydd Theatr Sherman yn cyflwyno cyfieithiad Cymraeg newydd o’r ddrama ar Faes yr Eisteddfod.

Ac wrth gwrs, cefnogwn hefyd weithgareddau ychwanegol gan y cwmnïau rydym yn eu hariannu ar sail aml-flwyddyn, boed yn gerddoriaeth, dawns neu theatr.

Byddwn hefyd yn lansio Sgwrs Genedlaethol am y Celfyddydau mewn digwyddiad ar y maes, yn y Lido ym Mharc Ynysangharad, ar ddydd Mawrth 6ed o Awst rhwng 5pm-6pm. Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgwrs banel wedi’i chadeirio gan yr awdur, Jon Gower, a bydd yn sgwrsio â Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ac Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg, Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Cymru, a Judith Musker Turner, Rheolwr Portffolio sy’n gyfrifol am Gyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau.

Ymysg digwyddiadau arbennig gan Gyngor Celfyddydau bydd  unigolion creadigol Llais y Lle a’r Consortiwm celf Cymraeg yn rhoi cyfle i chi flasu a phrofi dulliau cynhwysol a chreadigol o ddefnyddio’r Gymraeg yn YMa ar y 7ed o Awst rhwng 10am ac 1pm. Bydd croeso i bawb.