Mae Llydaw yn genedl Geltaidd sydd â chysylltiadau cryf â Chymru. Maent yn debyg o ran ieithoedd ac mae’r ddwy wlad yn gweithio i warchod eu treftadaeth ddiwylliannol. Mae anthem Llydaw, ‘Bro Gozh ma Zadoú’, yn seiliedig ar anthem genedlaethol Cymru, ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. Mae gan Gymru a Llydaw bartneriaeth arbennig gydag e-Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gynnal cysylltiadau diwylliannol a hybu cydweithio.  

Ymweliad Dirprwyaeth Celfyddydau Gweledol dan arweiniad VAGW â Llydaw 2-7 Hydref 

Mae Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yn rhwydwaith o orielau ledled Cymru.  I gefnogi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Llywodraeth Cymru â’r Conseil Regional de Bretagne, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cefnogi dirprwyaeth o aelodau VAGW i ymweld â Llydaw, gyda’r bwriad o greu cysylltiadau rhwng yr orielau ac agor cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer cyfnewid a chydweithio rhwng y sectorau celfyddydau gweledol yng Nghymru a Llydaw.   

 

Dyddiadau: 

2-7 Hydref: Dirprwyaeth Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru o orielau a churaduron i Lydaw 

 

Gallwch ddarganfod mwy am Raglen Ddiwylliant Cymru yn Ffrainc 2023 yma: