Lansiwyd y Cynllun Casglu ym 1983 ac roedd yn un o'r cynlluniau cyntaf o'i fath ym Mhrydain. Drwy gynnig benthyciadau di-log drwyddo, roedd yn bosibl lledaenu cost prynu celf a chrefft gyfoes dros 12 mis. Bu’n ffordd o ehangu mynediad i'r celfyddydau a chefnogi bywoliaeth artistiaid a gwneuthurwyr yng Nghymru, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw.

Lansiwyd Own Art gan Gyngor Celfyddydau Lloegr yn 2004, wedi'i ysbrydoli gan ein Cynllun Casglu. Mae Own Art erbyn hyn dan reolaeth Creative United ac mae ar waith dros yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Yn sgil cael gwybod am y toriad o 10.5% yn ein harian gan Lywodraeth Cymru, bu'n rhaid inni wneud arbedion sylweddol drwy newid sut rydym yn gweithio i barhau â’n gwasanaethau a chyflawni ein blaenoriaethau. Penderfynwyd nad oedd modd inni gynnig y Cynllun Casglu ragor.

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw fenthyciadau pellach drwy’r Cynllun Casglu ar ôl 31 Hydref 2024. Ond ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw fenthyciadau cyfredol neu ar rai sy’n digwydd hyd at y dyddiad yna.

Ar hyn o bryd mae dros 70 oriel ledled Cymru yn cynnig y Cynllun Casglu ac mae'r cynllun wedi hwyluso bron i 40,000 benthyciad dros y 40 mlynedd diwethaf. Rydym bellach yn gweithio'n agos gyda Creative United i nodi’r camau trosglwyddo aelodau o’r Cynllun Casglu i Own Art.

Mae symud y Cynllun Casglu i wasanaeth cwbl ddigidol yn uwchraddio'r gwasanaeth yng Nghymru. Bydd orielau’n elwa ar arbenigedd, adnoddau a phartneriaeth Creative United gyda Novuna fel yr asiantaeth gredyd. Gyda’r credyd â chymhorthdal, bydd orielau’n cael cymorth marchnata am ddim a buddion eraill i’w helpu i ddatblygu ac arallgyfeirio eu cwsmeriaid.

Rydym yn rhannu amcanion Creative United o leihau'r rhwystrau ariannol a'r syniad mai rhywbeth elitaidd yw prynu celf. Rydym yn siŵr mai dyma’r opsiwn gorau i brynwyr celf, aelodau o'r Cynllun Casglu a'r cannoedd o artistiaid a gwneuthurwyr crefftau yng Nghymru.