Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi datblygu gwefan newydd sy'n cynnig cysur y celfyddydau i wella lles gweithwyr gofal iechyd.

Mae'r Cwtsh Creadigol yn llawn gweithgareddau hwyliog sydd â’r nod o godi ysbryd a hybu lles staff y GIG a gofal cymdeithasol.

Mewn fideos byr, yn Gymraeg a Saesneg, mae artistiaid o bob cwr o Gymru yn cynnig gweithgareddau creadigol gan gynnwys crefftio, paentio, ysgrifennu, darlunio, dawnsio, canu, ffilm a ffotograffiaeth.

Drwy weld y fideos gallwch:

  • Droi hen diwb pâst tomato’n gelfwaith aur gyda'r artist, Emma Jones
  • Fynd y tu allan gyda'r artist, Helen Malia, a gwneud torch, mandala neu obelisg
  • Ganu o’r galon gyda cherddorion, Laura Bradshaw ac Iori Haugen
  • Ymlacio gyda'r dawnsiwr, Beth Meadway, a rhoi cynnig ar symudiadau newydd
  • Ysgrifennu pytiau byr gyda’r awdur, Siân Northey
  • Greu straeon â’ch camera gyda'r artist a oedd yn nyrs, Sarah Featherstone
  • Graslunio gyda'r artist, Tim Taylor-Beales, a dysgu sut i dynnu portread

Creodd Cyngor Celfyddydau Cymru y Cwtsh gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru. Partneriaeth sy’n gyfrifol am y gwaith. Mae’n cynnwys Gwella Addysg Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cydffederasiwn GIG Cymru, Cydgysylltwyr y Celfyddydau ac Iechyd yn y Byrddau Iechyd a grwpiau ffocws o weithwyr gofal iechyd.

Gallwch weld y Cwtsh yma: Cwtsh Creadigol | Cultural Cwtsh

Meddai Sally Lewis, Rheolwr Portffolio ac arweinydd y Celfyddydau ac Iechyd yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae'r Cwtsh Creadigol yn ymateb i'r pwysau ar ein staff gofal iechyd o achos y pandemig a’r problemau a ddaw yn sgil y straen. Nod y Cwtsh yw defnyddio creadigrwydd i hybu eu lles a chynnig cysur, hwyl a’r cyfle i ymlacio ac ymfynegi.

"Byddwn ni’n cynnig gweithgareddau newydd yn rheolaidd ar y wefan. Gobeithio y bydd llawer yn y maes yn cael y cyfle i fwynhau’n greadigol drwy'r Cwtsh.”