Mae Theatr Iolo, y cwmni theatr i blant sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, wedi derbyn cydnabyddiaeth swyddogol gan Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, am ei ymrwymiad i’r Gymraeg.

Mae’r gydnabyddiaeth yn dangos bod y cwmni wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio’r iaith yn gynyddol yn eu bywydau bob dydd. Yn ogystal ag anfon gohebiaeth megis e-byst a thaflenni digidol yn ddwyieithog, nod y cwmni yw cynhyrchu o leiaf 45% o’i gynyrchiadau yn Gymraeg ac o leiaf 50% o’i raglen estyn allan yn Gymraeg.

“Rydyn ni wrth ein boddau’n derbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’n dangos nid yn unig ein hymrwymiad i’r iaith ond hefyd yn rhoi inni gynllun datblygu ymarferol a fydd yn ein galluogi ni i wella’n darpariaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Credwn y dylai pob plentyn gael y cyfle i archwilio a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn eu hiaith ddewisol.”

Michelle Perez, Cyfarwyddwr Gweithredol

Mae Polisi’r Iaith Gymraeg a Chynllun Gweithredu Theatr Iolo ar gael i’w darllen yn llawn ar y wefan, yn Gymraeg a Saesneg.