Fel rhan o flwyddyn gyntaf Degawd Ieithoedd Brodorol ​​y Cenhedloedd Unedig, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gwahodd ceisiadau i Gronfa Gwrando. Mae’r gronfa newydd hon yn rhan o raglen ehangach Gwrando, ac yn adlewyrchu ein thema ar gyfer blwyddyn gyntaf Degawd y Cenhedloedd Unedig, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, Dydd Llun 19 Rhagfyr 2022

Nod Cronfa Gwrando yw meithrin y grefft o wrando ar ieithoedd a chymunedau sydd mewn perygl a dysgu am eu hymdrechion i warchod y tir y maent yn preswylio ynddi.

Yn gynharach eleni, galwodd Mererid Hopwood arnom i wrando ar dirwedd ieithyddol y byd. Dewiswyd y gair tirwedd yn fwriadol, ac mae’r cysylltiad rhwng iaith a’r amgylchedd yn alwad arnom ni i weithredu – i wrando ar amrywiaeth ieithyddol i gael yr un buddion ag a gawn wrth werthfawrogi amrywiaeth rhywogaethau yn y byd naturiol.

Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol yng nghyd-destun 7 nod a 5 ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hyn yn golygu ein bod ni hefyd eisiau dysgu am y pontydd sydd yn bodoli yn barod rhwng Cymru a chymunedau brodorol ledled y byd. Mae hyn yn rhoi gyfle i ni adnabod sbectrwm fwy eang o gydweithrediadau newydd ac sy’n bodoli yn barod er mwyn cyfrannu at nodau Gwrando.

Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i drawsnewid ac ymgorffori dysgu, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn dysgu ochr yn ochr â’r artistiaid, a chyda’n gilydd, byddwn yn edrych ar offer a phrotocolau a osodwyd gan bartneriaid brodorol sydd wedi’u cynllunio i greu mannau fwy diogel a chyfartal. 

Mae Indigenous Climate Hub yn hwb bwysig sydd yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau sy’n ymwneud â chyfiawnder hinsawdd o safbwyntiau brodorol. Maent yn amlinellu’r argyfwng hinsawdd fel “mater o bwys mewn perthynas ag ieithoedd brodorol. Mae pobl frodorol ymhlith y cyntaf i wynebu goblygiadau uniongyrchol newid hinsawdd oherwydd eu dibyniaeth ar yr amgylchedd a’i adnoddau, a’u perthynas agos â’r amgylchedd hwnnw.”

Mae Gwrando hefyd yn ymwneud â dad-goloneiddio’n hagweddau at ieithoedd a diwylliannau. Mae gan Gymru brofiad deuol o goloneiddio, fel mamwlad i iaith a diwylliant sydd wedi’u gormesu, ond hefyd fel rhan o Ymerodraeth sydd wedi coloneiddio llawer o wledydd a diwylliannau o gwmpas y byd megis y tir yr ydym yn ei hadnabod fel Canada, lle mae 400,000 yn hawlio etifeddiaeth Gymreig. Fel rhan o’n hymrwymiad i gyfrifoldeb byd-eang ac i ddad-goloneiddio’n gwaith rhyngwladol, mae Gwrando yn rhoi fframwaith inni fyfyrio ar y breintiau uniongyrchol ac anuniongyrchol y mae Cymru a’r iaith Gymraeg wedi’u cael drwy goloneiddio.

Rydym yn disgwyl ailfeddwl ynglŷn â’n hanes ein hunain gyda diwylliannau brodorol o gwmpas y byd gan wrando ar effaith coloneiddio ar ieithoedd yng Nghanada ac India, lle mae llawer o siaradwyr wedi colli ac yn ailhawlio’u hieithoedd. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ac annog cydweithrediadau celfyddydol i fynd i’r afael a hyn trwy weithio gyda phartneriaid yn fyd-eang ac fel rhan o Flwyddyn Cymru yng Nghanada 2022.

Dywedodd Eluned Haf (Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) “Roedd hi’n anrhydedd ac yn gyfrifoldeb i fod yn dyst i’r trafodaethau amrwd a’r trawma rhyng-genedlaethau yng Nghanada, ar eu hail ddiwrnod cenedlaethol erioed o Gwir a Chymod. Roedd yn gyfle i fyfyrio ar ein cyfrifoldeb yng Nghymru i wrando a chreu mannau diogel yn y DU i gymryd rhan mewn sgyrsiau am wir a chymod ar gyfer pobl, diwylliannau, ac ieithoedd brodorol, wrth inni nodi adegau pwysig fel Diwrnod Crysau Oren. Fe wrandawon ni ar brofiadau byw goroeswyr ysgolion preswyl, a’r effaith dinistriol arnynt, lle cymerwyd plant o’u teuluoedd, a lle bu llawer wedi marw, mewn ymgais fwriadol i atal trosglwyddiad iaith.

Mae’r 32 o ieithoedd sy’n cael ei siarad yn British Columbia yn ymgysylltu mewn prosiectau adfywio iaith trwy adfywhau arferion diwylliannol brodorol ​​​​artistig. Clywsom hefyd am y cysylltiad rhwng diwylliannau brodorol, tir ac argyfwng hinsawdd. Mae yna lawer y gall Cymru ei ddysgu a’i rannu o wrando ar brofiadau’r ieithoedd hyn, a’u cysylltiadau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd gyda’r tir y maent yn preswylio ynddi.”

 

Am y gronfa

Mae Gwrando wedi ei hysbrydoli gan waith artistiaid yng Nghymru ac o gwmpas y byd, ac yn siwrnai dysgu a hwylisir gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.  Fe fydd yn rhoi cyfle i artistiaid yng Nghymru i wrando, ac i ddysgu i gysylltu gydag ymarfer brodorol ar draws y byd drwy modd creadigol

Mae gwrando ar ieithoedd brodorol gyda a thrwy ieithoedd brodorol eraill yn galluogi archwilio diwylliannol, creadigol ac ieithyddol dwfn.  O'r archwiliadau creadigol hyn rydym yn bwriadu adeiladu ar gydweithrediadau a chyfleoedd i'r dyfodol. Ystyrir y gronfa hon fel y cam cyntaf i fentro’n ddyfnach yn ystod y degawd i ddod.

Rydym yn annog cynulleidfaoedd i gymryd rhan mewn ymarfer gwrando ac yn argymell y sgwrs hon sydd mewn recordiad fideo 3 rhan (Part 1 – THE CALL, Part 2 – THE RESPONSE, Part 3 – THE RESPONSE CONTINUES) – UNcommon Wealth - fel man cychwyn.

#EveryChildMatters