Y cam cyntaf allweddol yw penodi Pencampwr Hygyrchedd i ddatblygu’r project. Bydd yn gweithio gyda'r sector celfyddydol, lleoliadau a theatrau er mwyn gwella hygyrchedd i gynulleidfaoedd Byddar, anabl a niwroamrywiol a’u gofalwyr a’u cynorthwywyr personol.

Partneriaid y cynllun yw Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Ffilm Prydain.

"Rydym yn chwilio am Bencampwr Hygyrchedd i waredu’r rhwystrau sy'n atal pobl anabl rhag mwynhau’r celfyddydau yn eu llawnder."

Amanda Loosemore, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Gall y Pencampwr weithio o unrhyw le ym Mhrydain. Cyngor Celfyddydau Cymru a fydd yn ei reoli ar ran y bartneriaeth.

Dydd Gwener 21 Hydref 2022 yw’r dyddiad cau. Am ragor o wybodaeth a sut i ymgeisio, cliciwch yma.