Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau at Celfyddydau Anabledd Cymru.

 

Artist y Mis ar gyfer mis Mai yw Caitlin Flood-Molyneux!

Mae Caitlin Flood-Molyneux yn artist cyfoes arobryn, a fagwyd yn Hwlffordd ac a raddiodd o raglen MFA Ysgol Gelf Caerdydd. Mae ei hymarfer artistig yn ymchwilio'r ffordd yr ydym yn cysylltu emosiwn a chof â delweddau o ddiwylliant poblogaidd, gan ddefnyddio technegau cyfrwng cymysg i fynegi profiadau goddrychol o galedi. Mae ei gwaith yn hynod bersonol a cyfanfydol, gan ei fod yn olrhain adegau allweddol o'i bywyd; stori weledol breifat ac enigmatig y mae'n gwahodd y gwyliwr i feithrin eu cysylltiad eu hunain â hi. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang ar draws y DU ac yn rhyngwladol ac wedi dangos gwaith yn Christie’s Auction House yn Llundain. Mae hi hefyd yn arweinydd gweithdai profiadol iawn. Trwy ei gwaith – fel artist ac addysgwr, nod Caitlin yw grymuso ac ysbrydoli pobl greadigol chwilfrydig gyda’r celfyddydau i weld gwneud celf fel arf ar gyfer twf a lles personol. Iddi hi, mae celf bob amser wedi bod yn ffordd o brosesu teimladau anodd ac mae ganddi gred enfawr yn ei phŵer therapiwtig.

Mae’n bwysig i Caitlin fod ei phaentiadau nid yn unig yn cael eu gweld fel endid gweledol yn unig, ond hefyd fel cyfle i ymbwyllo. Nod y gwaith yw caniatáu i’r gwyliwr a’r artist synfyfyrio ar y gorffennol fel y byddai rhywun yn ei wneud wrth hel atgofion i sŵn cân hiraethus, lle mae atgof sy'n gwan i ddechrau yn dod yn atgof disglair. O gariad a cholled i alar a dicter, ac o'r graffig i'r paentiad mae'r gwrthgyferbyniadau sy'n gynhenid yn y gweithiau'n arwain at beintiadau hynod fynegiannol.

Yn ddiweddar cyrhaeddodd Caitlin y Rhestr Fer ar gyfer Forbes 30 Dan 30 Ewrop ac mae ar fin arddangos yn Sothebys ar gyfer Arwerthiant Elusennol Fair Shot “Art + Neurodiversity” gyda SOTA Marketplace. Ar hyn o bryd mae Caitlin yn gweithio ar ei phrosiect Cyngor Celfyddydau Cymru ‘Going Away in Order to Return’ a fydd yn arddangosfa deithiol yng Nghymru. Mae'n cychwyn yn Haverhub yn Hwlffordd ac wedyn yn teithio i “Art in the Attic” yn The Factory yn Borth ac yn gorffen yng Nghaerdydd yn Cardiff Umbrella. Mae’r corff newydd hwn o waith yn adlewyrchu awydd yr artist i ddangos gwaith yn y cymunedau y cafodd ei magu ynddynt, ar ôl symud oddi cartref ac ar ôl byw a gweithio mewn dinasoedd mawr, mae hi’n credu’n angerddol bod angen i bobl sy’n chwilfrydig am gelf brofi celf yn lleol mewn cyd-destunau hygyrch.

Meddai Caitlin:

“Rwy’n credu os oes gennych angerdd ewch amdani. Rwy’n dod o deulu dosbarth gweithiol ac roeddwn i’n meddwl na fyddwn i byth lle rydw i heddiw. Dywedodd athrawon wrthyf na fyddwn byth yn llwyddo â dim byd. Angerdd a chymhelliad yw’r cyfan sydd ei angen arnoch.”

Am fwy o wybodaeth am Caitlin a newyddion am y Prosiect “Going Away in Order to Return”, edrychwch ar wefan Caitlin neu ei Instagram.

Gwaith celf: “Ambush”, Olew, Collage a Chyfryngau Cymysg ar Gynfas, 120 x 120cm, 2023