Bydd y digwyddiadau cyntaf yn cynnwys jas yn Sir Benfro, cerddoriaeth werin y byd yn Sir Caerffili, Shakespeare ym Mhowys a jas yng Nghasgwent.

Mae Noson Allan yn rhoi gwarant yn erbyn colled i gymunedau. Mae’n sicrhau na fydd neb ar ei golled hyd yn oed os yw'r gynulleidfa’n fach a ddim digon o incwm i dalu ffi’r perfformiwr. Ers dros ddeugain mlynedd mae’n ffordd bwysig o gynnal perfformiadau celfyddydol proffesiynol mewn cymunedau difreintiedig, llai. Mae'n sicrhau bod gan bawb fynediad i gelfyddydau o safon.

Mae cyfyngiadau'n dechrau llacio a chadarnhaodd Llywodraeth Cymru y gall perfformiadau byw ailddechrau. Cynhelir pob digwyddiad yn unol â'r canllawiau perfformio a bydd cynulleidfaoedd yn ymbellhau'n gymdeithasol.

Meddai Peter Gregory, Pennaeth Noson Allan:

"Mae blwyddyn a hanner ers inni weld digwyddiadau Noson Allan byw. Yn ystod y cyfnod hwnnw ‘dyw perfformwyr ddim wedi medri ennill bywoliaeth. Gyda chyfyngiadau'n dechrau llacio, mae’n gyfle cyffrous i helpu cymunedau ac artistiaid fedru ailddechrau perfformiadau.

"Rydym yn gwybod bod rhai trefnwyr yn poeni am drefnu pethau’n ddiogel ac o’r herwydd nad yw pawb mor awyddus i ailddechrau. O ganlyniad, cynhaliodd Noson Allan ddwy sesiwn Sŵm i hyrwyddwyr drafod trefnu digwyddiadau diogel. Daeth dros 70 o bobl i’r sesiynau rheini o bob rhan o Gymru. I lawer o leoliadau, mae ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod y gynulleidfa bosibl yn fach iawn, ond mae rhai yn awyddus i gynnal cyngherddau byw.

“Wrth i reoliadau newid, gobeithio y bydd rhagor o neuaddau'n teimlo'n hyderus i gynnal sioe i'w cymuned ac rydym ni yma i'w helpu ar y daith."

Digwyddiadau newydd Noson Allan yw:

9/07 7pm - Off The Beaten Track yn cyflwyno Mishra a Rob Lear yn Neuadd Bentref Rydri, Caerffili

10/07 8pm - Pedwarawd Zoe Gilby  fel rhan o Aberjazz yn Theatr Gwaun Abergawaun

15/07 7pm - Shakespeare Link  a pherfformiad awyr agored o King Lear Retold yn y Willow Globe, Powys

16/07 7pm - Off The Beaten Track yn cyflwyno 3 daft monkeys a Jess Silk yn Neuadd Bentref Rydri, Caerffili

31/07 19.30 - Chepstow Jazz yn cyflwyno Triawd Dave Newton yn y Neuadd Ddrilio, Casgwent

Diwedd                                           7 Gorffennaf 2021