Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhyddhau diweddariad byr ar ei broses Adolygu Buddsoddiad, yn dilyn cyfarfod diweddar o Gyngor y sefydliad.

Wrth sôn heddiw, dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Yn ei gyfarfod diweddar, roedd aelodau'r Cyngor wedi eu calonogi yn fawr fod yr ymgynghoriad ar broses yr Adolygiad Buddsoddi wedi denu'r nifer fwyaf erioed o ymatebion a bod yr ymatebion rheini, yn gyffredinol, yn gefnogol i'n dynesiad arfaethedig o ran yr adolygiad hwn.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad tri mis hwnnw ac a fynychodd y llu o ddigwyddiadau ymgynghori yn ystod yr un cyfnod.

"Y cam nesaf fydd cyhoeddi’r dogfennau canllaw ar gyfer Adolygiad Buddsoddi 2023 ar 12fed Rhagfyr. Bydd hyn yn rhoi sawl wythnos i’r sector gelfyddydol yng Nghymru dreulio cynnwys y ddogfen honno cyn i'r ffenestr ymgeisio dri mis agor ym mis Ionawr 2023. Bydd cyfleoedd hefyd i siarad â swyddog am yr Adolygiad Buddsoddi o 12fed Rhagfyr ymlaen."

Bydd ceisiadau am yr adolygiad buddsoddi yn agor ar 9 Ionawr ac yn cau ar 31 Mawrth 2023.

Ni fydd newid yng ngwaith bob dydd a chyfathrebu Cyngor Celfyddydau Cymru (oni bai am unrhyw effaith yn sgîl cynnydd yn llwyth gwaith y sefydliad yn ystod y cyfnod asesu ceisiadau, Ebrill - Mehefin 2023).

Mae rhagor o wybodaeth am y broses Adolygu Buddsoddi ar gael ar wefan Cyngor y Celfyddydau - https://arts.wales/cy/adolygiad-buddsoddi  

DIWEDD                                 23 Tachwedd 2022