Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi diweddariad ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer yr Adolygiad Buddsoddi sydd ar y gorwel ganddo.

Gan siarad heddiw, dywedodd Michael Elliott, Prif Weithredwr dros dro Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Cafodd yr adolygiad buddsoddi, a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer 2020, ei ohirio gan y pandemig byd-eang, ac mae effaith Cofid-19 yn dal i gael ei deimlo'n eang. Mae’r digwyddiadau rhain wedi newid ein persbectif mewn cymaint o ffyrdd, yn cynnwys sut y dylai'r celfyddydau yng Nghymru gael eu hariannu yn y dyfodol. Rydym hefyd am gyfrannu'n adeiladol at drawsnewid parhaus cymdeithas, gan gynnwys mynd i'r afael â materion hollbwysig fel hiliaeth, rhagfarn ar sail anabledd, anghyfartaledd a thlodi.

"Arweiniodd ein hymgynghoriad cyhoeddus yn 2021 at sgwrs gyfoethog ac adeiladol gyda sector y celfyddydau a rhoddodd sylfaen gadarn i ni ddatblygu ein syniadau ynghylch ein Hadolygiad Buddsoddi arfaethedig. Yn ystod gweithdy a gynhaliwyd gan y Cyngor ychydig ddyddiau'n ôl bu’r aelodau yn myfyrio ar y sgyrsiau rheini ac yn datblygu ein syniadau ymhellach.

"Yn dilyn trafodaeth y Cyngor, mae staff Cyngor Celfyddydau Cymru wrthi ar hyn o bryd yn cwblhau argymhellion i'w hystyried gan Gyngor Ymddiriedolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf a fydd yn cynnwys dynesiad newydd tuag at drefniadau ariannu aml-flwyddyn hyblyg.

"Ddiwedd Gorffennaf, byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos arall ar y cynigion rheini, a byddwn yn cynnal cyfres o fforymau trafod, cyfarfodydd a sesiynau dysgu i ni fedru egluro a thrafod ein syniadau yn drylwyr gyda sector y celfyddydau a thu hwnt.

"Bydd y Cyngor yn cyrraedd casgliadau terfynol parthed yr adolygiad buddsoddi yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd – ac ar ôl hynny caiff rheini eu rhannu'n gyhoeddus. Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor yn gynnar yn 2023 a bydd y cytundebau ariannu newydd yn eu lle o fis Ebrill 2024."

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ddiwedd mis Gorffennaf, ar ddechrau'r ymgynghoriad cyhoeddus, ar gynigion y Cyngor ar gyfer yr Adolygiad Buddsoddi.

DIWEDD                                                                     29 Mehefin 2022