Cefndir

Mae'r gronfa hon nawr ar gau (Mai 2024)

Mae'r gronfa yma ar gau ar hyn o bryd.

Gŵyl Ymylol Caeredin yw gŵyl gelfyddydol fwyaf y byd. Mae Cymru yng Nghaeredin yn arddangosfa wedi'i churadu sy'n hyrwyddo safon ein theatr, ein dawns a’n syrcas. Gweledigaeth y rhaglen yw defnyddio’r Ŵyl Ymylol nid fel cyrchfan ond fel llwyfan i'n sefydliadau celfyddydol a gweithwyr creadigol wireddu eu huchelgais rhyngwladol.

Mae cynulleidfaoedd, rhaglenwyr, hyrwyddwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o Brydain a'r byd yn mynychu'r Ŵyl. Credwn fod gan ein cwmnïau celfyddydol perfformio a gweithwyr creadigol ansawdd Cymreig unigryw sy'n eu galluogi i weithio ar lefel fyd-eang.

Cyflwynir a churadir Cymru yng Nghaeredin gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n cynnig cyfle i'n cwmnïau a’n  gweithwyr creadigol sy'n arddangos yn barod, i ddatblygu marchnadoedd a dod o hyd i ffyrdd o wella eu patrymau teithiol y tu allan i Gymru.

£80,000 yw’r holl arian sydd ar gael i Gymru yng Nghaeredin 2024. Byddem ni’n disgwyl ariannu rhwng 4-5 ymgeisydd gyda chynigion cryf ac sy'n arddangos yn barod.

5pm ar 14 Chwefror yw’r dyddiad cau.

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid15.01.2024

Canllawiau Cymru yng Nghaeredin

Nodiadau cymorth gyda chyllid09.02.2022

Templed Cyllideb y Prosiect 2022

Nodiadau cymorth gyda chyllid15.01.2024

Cymru yng Nghaeredin 2024- Enghraifft o'r Ffurflen Gais