Weithiau ni fydd modd i ni, na’n partneriaid, ariannu eich prosiect neu eich syniad. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar ein rhestr o ffynonellau eraill o arian sydd ar gael yng Nghymru.

Weithiau rydym yn gweithio gyda chyrff arbenigol sy'n benodol i'r diwydiant i ddosbarthu cyllid ar ein rhan. Enghreifftiau o’r rhain yw Ffilm Cymru Wales a Llenyddiaeth Cymru (manylion isod).  

Ffilm Cymru Wales

Wedi ei sefydlu yn 2006 ac â'r enw Yr Asiantaeth Ffilm dros Gymru gynt, mae Ffilm Cymru Wales â'r cyfrifoldeb dros gynorthwyo gyda datblygu'r sector ffilm yng Nghymru a manteisio i'r eithaf ar y budd â ddaw yn economaidd, addysgiadol a diwyllianol o ffilm. Mae Ffilm Cymru Wales yn cefnogi ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru gyda chyllid datblygu a chynhyrchu, cymorth i'r diwydiant a darparu cyfleoedd mentora. Ein nod yw dod â chrewyr ffilm a chynulleidfaoedd ynghyd trwy annog mwy o bobl i weld mwy o ffilmiau mewn mwy o leoliadau. Rydym hefyd yn defnyddio ffilm ym meysydd addysg a datblygu cymunedol, ac yn cynhyrchu adnoddau addysgiadol, mewn cyd-weithrediad ag athrawon, er mwyn cynorthwyo gyda llythrenedd a dysgu cyfffredinol.

 

Llenyddiaeth Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ei weledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn hwyluso, noddi ac yn cyflawni rhaglen lenyddol ledled Cymru, ac yn gweithio yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog. Mae ei holl weithgareddau wedi eu strwythuro o dan dair colofn gweithgaredd:

Cyfranogi – ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.

Datblygu Awduron – datblygu potensial creadigol a phroffesiynol egin awduron.

Diwylliant Llenyddol Cymru – dathlu ein hawduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru.

Mae amryw brosiectau a gweithgareddau’r sefydliad yn cynnwys: Llyfr y Flwyddyn; Bardd Cenedlaethol Cymru; Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales; Her 100 Cerdd; menter llenyddiaeth yn y gymuned, Llên Pawb; Cynlluniau Ysgoloriaethau i Awduron a Mentora; cyrsiau ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd; cynllun nawdd Awduron ar Daith; a llawer mwy.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig ac yn gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.