Mae Celf ar y Blaen yn arwain gweithgareddau ddydd Sadwrn 30 Mawrth ym Mharc Bryn Bach Tredegar, Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon, Parc a Chastell Cyfarthfa, a Pharc Penallta Ystrad Mynach.

Caiff y sawl sy'n cymryd rhan eu hannog i ymrwymo un peth y gallant ei newid i arafu newid yn yr hinsawdd. Caiff yr ymrwymiadau eu hysgrifennu ar grychydd origami ac yna'u clymu at ei gilydd gyda llinyn a dod yn ganolbwynt gorymdaith lluserrnau ym Mharc Penallta.

"Yn Japan, mae'r crychydd yn greadur cyfriniol a chredir ei fod yn byw am fil o flynyddoedd", meddai Kate Strudwick, Rheolwr Celf ar y Blaen. "Y traddodiad yw os byddech yn plygu 1,000 crychydd origami y byddai eich dymuniad yn dod yn wir. Daeth yn arwydd o obaith a iachad mewn cyfnodau anodd." Mae Celf ar y Blaen wedi cynhyrchu fideo i ddangos i bobl sut i blygu crychydd ac mae pobl eisoes yn helpu i gyrraedd y targed.

Gyda chefnogaeth gan WWF, mae Celf ar y Blaen wedi trefnu llawer o weithgareddau yn Nhredegar, Blaenafon a Merthyr Tudful yn ystod y dydd, gan arwain at y digwyddiad yn Ystrad Mynach. Ym Mharc Bryn Bach byddant yn gwneud gerddi bach i wenyn beillio ynddynt a'u harnofio ar draws y llyn. Yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon bydd llawer o fwyd eco-gyfeillgar a dweud straeon. Ym Mharc Cyfarthfa, dangosir i blant sut i wneud bwyd iach i'w rhoi i'r hwyaid a dilyn llwybr pengwiniaid. Ar ddiwedd y dydd, daw pobl â'u llusernau i Barc Penallta ar gyfer gorymdaith llusernau fawr gyda cherddoriaeth fyw a cherfluniau helyg. Bydd pawb wedyn yn mynd â'u llusernau adre gyda nhw i'w defnyddio rhwng 8.30pm - 9.30pm - yr amser pan gaiff goleuadau eu troi i ffwrdd ar draws y byd.

I gymryd rhan ewch i www.head4arts.org.uk, e-bost info@head4arts.org.uk neu ffonio 01495 357816