Mae 15 o gomisiynau artistig newydd yn derbyn cyfanswm o £737,500 mewn cymorth ariannol.

Heddiw, pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi enwau’r rhai sydd ynghlwm â’r 15 o brosiectau fydd yn derbyn symiau o rhwng £15,000 ac £80,000 i greu gwaith newydd. Mae’r prosiectau hyn yn rhychwantu ystod eang o ffurfiau celf, o ddawns i ffotograffiaeth a thu hwnt. Gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at berfformiadau sy’n torri tir newydd, arddangosfeydd sy’n sbarduno’r meddwl, a chydweithrediadau rhyngwladol sy’n gwthio’r ffiniau, yn herio canfyddiadau, ac yn ysbrydoli newid.

Mae’r Gwobrau Agored, a gyflwynir yn chwemisol gan Unlimited, yn rhoi cyfle i artistiaid anabl gael eu comisiynu ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol. Agorodd y rownd hon o wobrau ym mis Awst 2023, gyda 484 o artistiaid yn cyflwyno ceisiadau oedd yn arddangos lled a dyfnder y dalent sydd o fewn cymuned y celfyddydau anabl ledled y DU.

Dywedodd Jo Verrent, Cyfarwyddwr gydag Unlimited: “Roedd y ceisiadau eleni o safon anhygoel o uchel, gan wneud y broses o ddewis yn anodd iawn. Gan fod artistiaid yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud, a pham, fe benderfynwyd ymestyn y gyllideb wreiddiol a dyfarnu nid 14 ond 15 gwobr eleni. Mae’r byd yn lle anodd ar hyn o bryd am nifer o wahanol resymau. Dyw hi ond yn iawn, felly, bod unrhyw arian sbâr y gallwn ddod o hyd iddo yn ein cyllideb yn mynd i’r bobl sydd â’r angen mwyaf amdano, sef y rhai rydyn ni yma i’w helpu.”

Y rhai fydd yn derbyn Gwobrau Agored y DU 2024 yw Aisha Mirza, Bea Webster and Ciaran Stewart, Farrell Cox, misery, Nadenh Poan, Nelly Kelly a Afton Moran, Sam Brewer (FlawBored), Sarah Ezekiel, Taking Flight Theatre Company, and Tink a Abra Flaherty.

Y rhai fydd yn derbyn Gwobrau Rhyngwladol Agored 2024 yw Birds of Paradise Theatre Company a Diverse Patterns, Byron Vincent a Elif Simge, Chisato Minamimura a Alice Hu, Extraordinary Bodies and Pamoja Dance Group, a F. Zeeshan Choudhury a Rasel Rana.

Mae’r prosiectau a ariannwyd yn cynnwys cyfres o luniau’n dogfennu bywydau cychwyr cwîar, Du/brown ac anabl, perfformiad dychanol ynghylch ystyried hawliau traws fel dadl, drama radio fyw sy’n cysylltu cymunedau anabl yn yr Alban a Nepal, a darn IAP/BSL a ysbrydolwyd gan Dungeons and Dragons.

Ar hyn o bryd, Unlimited yw’r comisiynydd mwyaf yn y byd ym maes celfyddydau’r anabl. Rydym yn cefnogi artistiaid anabl, ac wedi gwneud hynny byth ers ein sefydlu yn 2013. Pan gaiff artistiaid anabl eu cynrychioli ar lefel gyfrannol ar draws y sector celfyddydol, byddwn ni’n peidio â bod. Mae’r cyhoeddiad heddiw’n mynd â chyfanswm y lefelau ariannu a ddyfarnwyd gennym i £6.5 miliwn ar gyfer 521 o artistiaid.

Dywedodd Isabella Tulloch Gallego, Rheolwr Rhaglen gydag Unlimited: “Rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi’r rhestr o artistiaid a gomisiynwyd ar gyfer ein Gwobrau Agored 2024! Mae’r gwobrau hyn, fel mae eu henw’n awgrymu, yn ymgorffori ysbryd agored ac arloesedd. Mae’n foment hynod gyffrous i hyrwyddo’r don yma o artistiaid anabl i’w galluogi i ddod â’u syniadau, eu straeon a’u profiadau’n fyw. O bersbectifau amrywiol i ddychymyg diddiwedd, mae’r comisiynau hyn yn arddangos y sbectrwm bywiog o artistiaid anabl sydd ledled y DU heddiw. Ymunwch â ni i ddathlu’r prosiectau hyn, lle mae creadigrwydd yn sbarduno newid trawsnewidiol!"

Gwneir Gwobrau’r DU yn bosibl gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru, a’r Loteri Genedlaethol drwy Yr Alban Greadigol. Cyfrannodd cyllidwyr y DU gymorth gwerth £487,500 i gefnogi’r gwobrau.

Cyflwynir y Gwobrau Rhyngwladol Agored mewn partneriaeth gyda’r Cyngor Prydeinig, sydd wedi cyfrannu £250,000 tuag at 5 o Wobrau Rhyngwladol.