International Tanzmesse yw un o’r casgliadau proffesiynol mwyaf o ddawns gyfoes ac eleni mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi dewis 34 o artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i gyd-deithio â nhw i gynrychioli Dawns o Gymru.

Yn dilyn y galwad am geisiadau fis diwethaf, mae tri o ymarferwyr dawns sydd wedi’u lleoli yng Nghymru wedi’u dewis gan roi’r cyfle iddynt rwydweithio a deall y farchnad ryngwladol.

Y tri sydd wedi dangos hanes gyrfa dda yma yng Nghymru ac yng nghamau cynnar eu datblygiad gwaith rhyngwladol yw Jo Fong, Matteo Marfoglia, a Dominika Rau.

Cynhelir Tanzmesse bob dwy flynedd yn Dusseldorf, yr Almaen, a bydd y digwyddiad eleni yn cael ei gynnal rhwng 29 Awst a 1 Medi 2018.

Yn dilyn llwyddiant perfformiad cyntaf Dawns o Gymru yn 2016 yn hyrwyddo Cymru i’r farchnad Ewropeaidd a rhyngwladol, bydd CDCCymru yn arwain perfformiad Cymru eto yn Tanzmesse 2018 gyda chefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Ymunir â’r tri artist Cymreig gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Gŵyl Ddawns Caerdydd yn y ffair fasnach.

Dros gyfnod o bedwar diwrnod bydd yr artistiaid dawns yn cael cyfle i ddangos eu hunain yn y Ffair Fasnach dan ymbarél Dawns o Gymru, yn cyfarfod cynhyrchwyr, rhaglenwyr, asiantaethau a chynrychiolwyr llywodraeth leol i ddechrau’r sgyrsiau i fynd â’u gwaith yn rhyngwladol.

Yn ogystal, bydd cyfle i’r artistiaid weld ychydig o raglen yr ŵyl sydd â rhaglen lawn o ddawns ryngwladol a hefyd byddant yn rhan o ddadleuon a sesiynau gwybodaeth ynghylch pynciau penodol.

 

Mwy ynghylch yr artistiaid:

Matteo Marfoglia

Mae Matteo yn Artist Dawns a Choreograffydd wedi’i leoli yng Nghymru. Coregraffodd Matteo ei waith cyntaf, Just a Breath, yn yr Iseldiroedd ac fe enillodd yr ail wobr yn Certamen Internacional de Coreografìa Burgos-Efrog Newydd. Mae ei waith wedi bod ar daith yn y DU ac yn rhyngwladol, ac wedi cael ei ddewis gan wyliau a sefydliadau megis Valletta18 ECOC, Altofest, Interplay/18 a rhwydwaith AnticorpiXL ymysg eraill. Yn 2017, cydnabuwyd Matteo fel arweinydd y dyfodol mewn dawns Brydeinig gan OneDanceUK ac fe gafodd gynnig lle ar eu rhaglen mentora. Yn ddiweddar, enillodd Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cefnogi ei ymchwil artistig ar sut i ddod â dawns gyfoes i leoliadau anghonfensiynol a sut gellir ysgogi symudiad trwy broses o ymateb i gymunedau, hanes a thrigolion llefydd penodol. Yn 2018, enwebwyd Matteo fel yr artist gwrywaidd gorau gan Wobrau Theatr Cymru. Mae Matteo yn Artist Cyswllt i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

 

Jo Fong

Mae gyrfa eclectig Jo yn cynnwys perfformiadau gyda DV8 Physical Theatre, Rosas and Rambert Dance Company. Mae ei waith ar y cyd diweddaraf yn cynnwys gweithio gyda Wendy Houstoun, Sonia Hughes, Deborah Light, Xintiandi Festival, Theatr Genedlaethol Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Hull Dance a Quarantine Theatre. Mae Jo yn Artist Cyswllt gyda Chapter, SE Dance a Chinese Arts Now (CAN). Fel artist annibynnol, mae hi wedi bod ar daith â’i gwaith coreograffi ledled y DU, yn rhyngwladol ac wedi cyflwyno yn British Dance Edition a’r British Council Edinburgh Showcase. Mae ei gwaith wedi’i gydnabod a’i wobrwyo gan Wobrau Dawns Cenedlaethol y Critic’s Circle, Dyfarniadau Cymru Greadigol a Gwobrau Theatr Cymru. Cefnogir Jo gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council England, Diverse Actions, Chinese Arts Now, Creative Scotland, Fieldwork, British Council, Sherman Cymru, Chapter, Dance House a Coreo Cymru.

 

Dominika Rau

Ganed Dominika Rau yng Ngwlad Pwyl, pan yn blentyn roedd yn rhan o gr wˆp cerddoriaeth ieuenctid a gr wˆp ailgreadau hanesyddol yn creu perfformiadau gofodau mawr cyhoeddus. Symudodd i Gymru yn 2013 gan raddio mewn Celf Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddi ddiddordeb yn bennaf mewn creu gwaith sy’n ymwneud â meim a theatr gorfforol ynghyd â dawnsio cyfoes a gosodweithiau perfformiadol. Mae Dominika Rau yn rhan o’r United Cultures Dance Clan – gr wˆp dawns o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd. Mae’n arweinydd gweithdai meim, theatr gorfforol, a chelf perfformio ar gyfer grwpiau amlgenedlaethol. Fe wnaeth damwain ddawnsio ddifrifol yn 14 oed newid ei safbwynt tuag at theatr a dawns, gan addasu popeth i gryfder isel a hyblygrwydd ei chorff. Ei dysgeidiaeth yw y gall pawb fod yn ddawnsiwr ac yn berfformiwr, dim ond iddynt ddefnyddio eu dychymyg a gweithio’n galed. Gweithiodd Dominika Rau gydag artistiaid a dysgodd gan artistiaid megis: Lionel Menard (Ffrainc), Alexander Neander (Yr Almaen) Wolfram von Bodecker (Yr Almaen), Paulina Almeida (Portiwgal), Victoria Volter (Gwlad Pwyl), Aleksandra Dziurosz (Gwlad Pwyl), TAAT Theatr fel Pensaernïaeth a Phensaernïaeth fel Theatr (Yr Iseldiroedd), Odin Teatret (Denmarc), Roberta Carreri (Yr Eidal) Larry Ng Shiu Hei (Tsieina), Reza Keshavarz (Iran), Eric Wilcox (UD), Cathy Tyson (DU) a mwy.