Mae ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Hijinx yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu at gymuned gelfyddydol ddeinamig a chynhwysol. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n barod i gynnig safbwyntiau a dealltwriaeth newydd, wedi eu tynnu o brofiadau bywyd a phroffesiynol.

Os oes gennych brofiad o fod ar fyrddau neu yn ystyried bod yn ymddiriedolwr am y tro cyntaf, bydd eich cyfraniad yn allweddol wrth ein helpu i deithio trwy dirwedd theatr cynhwysol a’i gyfoethogi, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd wedi cael eu tangynrychioli yn y gorffennol yn Hijinx ac yn y diwydiant celfyddydol oherwydd rhwystrau yn gysylltiedig ag ethnigrwydd, dosbarth, anabledd, rhyw, daearyddiaeth, rhywedd, oedran a chrefydd. Mae gennym ddiddordeb yn benodol mewn unigolion sy’n dwyn setiau penodol o sgiliau sy’n cyd-fynd â’n hanghenion.

• Cynllunio Strategol
• Anabledd a Gwahaniaethu
• Y Gymraeg
• Prosiectau Cyfalaf
• Codi Arian
• Ymgysylltiad Cymunedol
• Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
• Elusen a’r Trydydd Sector

Darganfod Mwy https://www.hijinx.org.uk/cy/recriwtio-ymddiriedolwr/

Dyddiad cau: 25/02/2024