Yr Hydref hwn, mae Theatr y Torch yn bles iawn cael cyhoeddi tymor byr o ffilmiau clasurol sy'n cael eu dangos o dan y faner ‘Llwyfan i'r Sgrin' – sef cyfle prin i weld tri addasiad sinema glasurol ar y sgrin fawr ble maent yn perthyn!

Cyflwyna llys ddrama 1957 Sidney Lumet sef '12 Angry Men', sydd wedi ei seilio ar ddrama deledu Reginald Rose, ddosbarth meistr yn y ddeinamigrwydd pur o actio, wrth i amheuaeth resymol Henry Fonda araf berswadio un ar ddeg o reithwyr eraill o'u rhagfarnau amrywiol.

Eisteddwch yn ôl a mwynhewch i fyny hyd at ddeuddeg actor cymeriad gwych - Lee J. Cobb, Ed Begley, E.G. Marshall, Jack Warden, Martin Balsam, John Fleder, Jack Klugman, Edward Binns, Joseph Sweeney, George Voskovec, Robert Webber a Fonda - cerfiwch y sgrin fyny mewn i ddwsin o ddarnau perffaith. Mae'r ffilm, a chafodd pedwar enwebiad Oscar gan gynnwys y Llun Gorau, sef ’12 Angry Men’ yn dangos o ddydd Mercher 2 i ddydd Sadwrn 5 Hydref.

Gan frolio perfformiad eiconig gan Marlon Brando, fe wnaeth ‘A Streetcar Named Desire’ ei throsglwyddo drama Tenessee Williams ar i'r sgrin fawr o dan gyfarwyddyd Elia Kazan, a wnaeth hefyd gyfarwyddo'r cynhyrchiad llwyfan Broadway. Roedd Marlon Brando, Kim Hunter, a Karl Malden oll wedi eu castio yn eu rhannau Broadway gwreiddiol. Lansiodd Brando chwyldro mewn actio ar y sgrin gyda'i bortread llym fel y gwerthwr bwystfilaidd Stanley Kowalski, a gosododd y ffilm record Oscar pan ddaeth y ffilm gyntaf i ennill tri chategori actio (gorchest a gyfatebwyd ond unwaith, gan 'Network' ym 1977). Bydd ‘A Streetcar Named Desire’ yn cael ei dangos ar ddydd Mawrth 15 a dydd Mercher 16 Hydref.

Mae ein tymor ‘Llwyfan i'r Sgrin’ yn gorffen gydag addasiad 1992 o nofel wych John Steinbeck sef ‘Of Mice And Men’, wedi ei haddasu i'r sgrin gan Horton Foote (‘To Kill A Mockingbird’). Yn y stori fytholwyrdd am ddau weithiwr fferm yn y Deep South yn ystod y Dirwasgiad Mawr, mae Gary Sinise (‘Forrest Gump’, ‘The Green Mile’,’ Apollo 13’) yn cyfarwyddo ac yn serennu yn yr addasiad yma, gan ymddangos ochr yn ochr â John Malkovich fel Lenny. Bydd ‘Of Mice And Men’ yn dangos o ddydd Sul 3 - Dydd Mercher 6 o Dachwedd.

 

Mae tocynnau ar gyfer y ffilmiau yma yn £7.40 yr un (£6.00 Consesiynau), ond mae disgownt o 10% os wnewch chi archebu tocynnau i unrhyw ddwy ffilm, ac 20% os archebwch i weld y tair ffilm! Mae modd i chi hefyd weld y dair ffilm fel Dangosiadau Prynhawn ble mae'r tocynnau ond yn £6.00 yr un: Am fwy o wybodaeth ewch i torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267.