Heddiw mae Theatr Clwyd yn cyhoeddi cast llawn a dyddiadau taith Milky Peaks gan Seiriol Davies.

THEATR EMLYN WILLIAMS

Theatr Clwyd, Áine Flanagan Productions a Seiriol Davies yn cyflwyno’r première byd o

MILKY PEAKS

Ysgrifennwyd a chyfansoddwyd gan Seiriol Davies

Dyfeisiwyd gan Seiriol Davies, Matthew Blake a Dylan Townley

Cast: Matthew Blake (Pariah) Lisa Jên Brown (The Mother), Seiriol Davies (Dewi), Kate Galston (Rhombus), Dylan Townley (A Wall/Bar), Sophie Winter (Linda Maria), Isabel Adomakoh Young (Alun John).

 

Cyfarwyddwr: Alex Swift; Cynllunydd: Janet Bird; Cyfarwyddwr Cyswllt: Matthew Blake;

Cyfarwyddwr Cerdd: Dylan Townley; Cynllunydd Goleuo: Kevin Treacy;

Cynllunydd Sain a Chynhyrchu Cerddoriaeth: Chris Bartholomew; Cyfarwyddwr Symud: Ewan Jones; Carwyddwr Cynorthwyol: Francesca Goodridge

Yng nghalon Eryri, mae tref fechan Milky Peaks yn cael ei henwebu am wobr ‘Tref Orau Prydain’. Ond ynghlwm wrth y wobr mae agenda adain dde dywyll, sy’n bygwth calon ac enaid y dref. Fedr y gymuned ddod at ei gilydd i achub hunaniaeth eu hoff Milky Peaks?

Mae Milky Peaks yn gydweithrediad unwaith eto rhwng Davies a Matthew Blake, Alex Swift, Dylan Townley ac Áine Flanagan Productions, oedd yn gyfrifol am greu cynhyrchiad llwyddiannus How to Win Against History ar y cyd.

Hyfforddodd Seiriol Davies yn LISPA. Mae’n awdur, cyfansoddwr a seren y sioe gerdd How to Win Against History, a enillodd fri’r beirniaid a’r gynulleidfa yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2016 a 2017, a theithio Cymru a Lloegr yn helaeth cyn cyfnod yn y Young Vic yn Llundain, a gafodd ei ymestyn oherwydd poblogrwydd y sioe. Mae wedi gweithio gyda chwmnïau ac artistiaid sy’n cynnwys Punchdrunk, Caroline Horton, Verity Standen, Underbling & Vow, Christopher Green a Gideon Reeling. Mae wedi ysgrifennu gwaith ar gyfer yr Old Vic, Gate Theatre, National Theatre Wales ac Opera Cenedlaethol Lloegr. Mae’r gwaith sydd ganddo ar y gorwel yn cynnwys sioe gerdd sydd wedi’i hysgrifennu ar y cyd â Maxine Peake ar gyfer y Manchester Royal Exchange.

Matthew Blake sy’n chwarae rhan Pariah. Mae ei rannau actio blaenorol yn y theatr yn cynnwys How to Win Against History (Gŵyl Fringe Caeredin, taith yn y DU, Young Vic), The Fritarty (Neuadd y Dref Shoreditch), Muse of Fire (Shakespeare’s Globe), New Atlantis (The Crystal Llundain), My Beautiful Black Dog (Bush Theatre), The Drowned Man: A Hollywood Fable (Punchdrunk/National Theatre), The House Where Winter Lives (Discover Children’s Story Centre, Gŵyl Gelfyddydau Ryngwladol Perth), a The Good Neighbour (Canolfan Gelfyddydau Battersea).

Lisa Jên Brown sy’n chwarae rhan The Mother. Mae ei rhannau actio blaenorol yn y theatr yn cynnwys Praxis Makes Perfect, Candylion (National Theatre Wales), Sleeping Beauties (Theatr Sherman), Double Vision (Canolfan Mileniwm Cymru), a Chwalfa, Siwan, Cysgod y Cryman (Theatr Genedlaethol Cymru). Ar y teledu, mae wedi ymddangos yn Gwaith/Cartref a Rownd a Rownd. Brown yw prif leisydd 9Bach ac mae’n ysgrifennu caneuon ar gyfer y band. Hefyd mae wedi cydweithredu’n lleisiol gyda Gruff Rhys ers 2007.

Kate Galston sy’n chwarae rhan Rhombus. Mae ei rhannau actio blaenorol yn y theatr yn cynnwys Dick Whittington (North Wales Theatre), Chicago (taith ryngwladol), Simply Ballroom (taith yn y DU, Theatre Royal Drury Lane), That’s Amore (London Palladium, taith yn y DU), Heartbeat Keith, Mamma Mia! (taith yn y DU), The Genius of Ray Charles (Theatre Royal Haymarket), a Cinderella (Opera Cenedlaethol Cymru).

Dylan Townley sy’n chwarae rhan A Wall / Bar. Mae ei rannau actio blaenorol yn y theatr yn cynnwys How to Win Against History (taith yn y DU, Young Vic), Austentatious (Piccadilly Theatre, Savoy Theatre), a The Greatest Wealth (The Old Vic). Townley yw cyd-greawdwr Peablossom Cabaret (taith yn y DU), a Fanny and Stella (Hackney Showroom, Camden’s People Theatre), ac mae’n brif awdur ar gyfer History Bombs sydd wedi ennill gwobr BAFTA.

Sophie Winter sy’n chwarae rhan Linda Maria. Mae ei rhannau actio blaenorol yn y theatr yn cynnwys Jude Starbeam and the Shadow Planet (The Albany), Don’t Panic! It’s Challenge Anneka (taith yn y DU), a No Place Like, The Overcoat (on the button), The School for Scandal (The Bridewell Theatre), ac Ashputtel (Forge Theatre).

Isabel Adomakoh Young sy’n chwarae rhan Alun John. Mae ei rhannau actio blaenorol yn y theatr yn cynnwys Venice Preserved, The Provoked Wife (RSC Swan Theatre), Meatballs (Hampstead Theatre), Dear Elizabeth (Gate Theatre), To Kill A Mockingbird (Lyric Hammersmith), Macbeth (Garrick), Victoria’s KnickersConsensualPecs Drag Kings: The 80s Show (Soho Theatre), Bite Your Tongue (Hackney Showroom), a Brood (Arcola).

Alex Swift yw’r Cyfarwyddwr Artistig yn Permanent Red ac mae’n Artist Cyswllt gyda’r Daedalus Theatre Company. Mae ei waith cyfarwyddo ar gyfer y theatr yn cynnwys All of Me (Summerhall, Caeredin a The Yard, Llundain), How to Win Against History (Young Vic a thaith),  An Injury (Ovalhouse), Heads Up (Summerhall, Caeredin a thaith), Luca Rutherford’s Political Party (ARC Stockton a thaith), Instructions For Border Crossing (Summerhall a thaith), Me & Mr C (Ovalhouse, Alphabetti Theatre a thaith), Fat Man (Vault Festival a thaith), Error 404 (Polka Theatre a thaith), Mess (Traverse theatre a thaith), I Told You This Would Happen (ARC Stockton a thaith) a Puffball (BAC a The Yard Theatre).

Mae Milky Peaks wedi cael cefnogaeth gan Adran Gwaith Newydd y National Theatre, Theatr Clwyd, Arts Council England, Cyngor Celfyddydau Cymru, Canolfan Gelfyddydau Battersea ac Ovalhouse.

Gellir gweld Milky Peaks yn Theatr Clwyd (Theatr Emlyn Williams) rhwng dydd Gwener 20 Mawrth a dydd Sadwrn 11 Ebrill cyn mynd ar daith ledled Cymru. Pris y tocynnau yw £10 a mwy ac maent ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Clwyd ar 01352 344101 neu yn www.theatrclwyd.com.

 

DYDDIADAU TAITH MILKY PEAKS   

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

Mawrth 14 – Mercher 15 Ebrill

www.brycheiniog.co.uk / 01874 611622

 

Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe

Gwener 17 – Sadwrn 18 Ebrill

www.taliesinartscentre.co.uk / 01792 602060

 

Pontio Bangor

Mawrth 21 – Mercher 22 Ebrill

www.pontio.co.uk / 01248 382828

 

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth  

Gwener 24 – Sadwrn 25 Ebrill

www.aberystwythartscentre.co.uk / 01970 623232

 

Theatr Torch Aberdaugleddau       

Mawrth 28 – Mercher 29 Ebrill

www.torchtheatre.co.uk / 01646 695267

 

Hafren Y Drenewydd

Gwener 1 – Sadwrn 2 Mai

www.thehafren.co.uk / 01686 614555

 

Theatr Sherman Caerdydd

Mercher 6 – Sadwrn 9 Mai

www.shermantheatre.co.uk / 029 2064 6900