Wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Gŵyl Biwmares yn ŵyl gelfyddydol flynyddol, sydd wedi’i chynnal bob blwyddyn ers 1986.  Ers y cychwyn ei Chyfarwyddwr Artistig yw Anthony Hose.  Ei Gweinyddwraig yw Seren Hâf Jones, caiff ei lywodraethu gan Fwrdd o Lywodraethwyr a chaiff ei gefnogi gan bwyllgor cryf o wirfoddolwyr lleol.

Lleolir swydd y Swyddog Marchnata rhan amser hon yn y cartref.  Bydd y penodiad yn dechrau ar 2 Ionawr 2024 a daw i ben ar 31 Mai 2024.  Dyddiadau yr Ŵyl yw 22-29 Mai 2024.  Y ffi yw cyfanswm o £4,000, yn seiliedig ar ymrwymiad o tua diwrnod yr wythnos.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys: marchnata'r Ŵyl trwy gyfryngau cymdeithasol a phost electronig; creu pecynnau marchnata ar gyfer pob digwyddiad yr Ŵyl a chreu ffeiliau cynnwys i’w rhannu; creu copi, adnabod delweddau addas ar gyfer digwyddiadau'r Ŵyl a chyfleoedd ar gyfer cynulleidfaoedd; sicrhau bod yr holl ddeunydd marchnata yn ddwyieithog; anfon diweddariadau i wefan yr Ŵyl; diweddaru'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, e.e. Facebook, Twitter, Instagram, ac ati; darganfod cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus a darparu gwybodaeth/delweddau yn ôl yr angen, rhannu eitemau newyddion ar gyfryngau cymdeithasol; darparu asesiad risg o'r gweithle ac offer yn y cartref; casglu cynnwys ac ysgrifennu'r daflen farchnata; casglu hysbysebion ar gyfer rhaglen yr Ŵyl.

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at serenhafjones@live.co.uk

Dyddiad cau: 08/12/2023