Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £5.25m ar gael i gynorthwyo sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sinemâu annibynnol Cymru drwy fisoedd y gaeaf, mewn cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, heddiw.

Diben y gronfa hon yw cefnogi sefydliadau sydd mewn trafferthion gwirioneddol - sydd mewn perygl o gau neu y bydd swyddi'n cael eu colli - oni bai bod cymorth pellach yn cael ei ddarparu. Rhaid i'r risg hon fod o ganlyniad uniongyrchol i effaith barhaus Covid-19.

Bydd y gronfa newydd yn rhoi cymorth hanfodol i sefydliadau yn y sectorau diwylliannol hyn ledled Cymru, llawer ohonynt yn cael eu rhedeg yn wirfoddol neu ddielw. Mae hyn yn ychwanegol at y gronfa £60m a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog i gynorthwyo busnesau y mae'r cyfyngiadau newydd yn effeithio arnynt.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cydweithio i ddadansoddi'r sectorau hyn a nodi'r angen am gymorth ychwanegol, er mwyn sicrhau bod sefydliadau yn y sectorau hyn yn parhau i fod yn hyfyw dros y misoedd nesaf.

Bydd y gronfa, a fydd yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2022, yn agor ar gyfer ceisiadau ddydd Mercher 12 Ionawr 2022 a bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cyflwyno cais ar-lein erbyn y dyddiad cau o 5.00 pm ddydd Mercher 26 Ionawr 2022.

Yn ystod y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £86.2m o gyllid i sicrhau sefydlogrwydd hirdymor y sector diwylliannol ar draws nifer o gronfeydd, gan arwain at y mwyafrif llethol, os nad bob lleoliad, yn osgoi cau yn barhaol.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

"Mae cyfnod Covid wedi bod yn anodd i ni gyd. Er gwaethaf arloesedd a gwydnwch clodwiw, mae'r pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar y bobl a'r sefydliadau sy'n gwneud ein sector diwylliannol mor fywiog ac economaidd sefydlog.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cefnogaeth sylweddol ar gael i sicrhau bod lleoliadau'n gallu osgoi cau yn barhaol. Rwy'n falch bod y gefnogaeth yr ydym wedi'i darparu wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y sector, ond gwyddom fod y sector yn parhau i wynebu pwysau newydd, a dyna pam yr ydym yn sicrhau bod y cyllid ychwanegol hwn ar gael.

"Mae COVID-19 yn effeithio ar lawer o sefydliadau, ond mae'n bwysig bod arian yn cael ei roi i'r rhai sydd â'r angen mwyaf argyfyngus. Mae'r gronfa hon er mwyn goroesi, nid ar gyfer gwneud yn iawn am ostyngiad dros dro mewn elw. Felly, byddem yn gofyn i chi feddwl yn ofalus a oes angen i chi wneud cais i'r gronfa hon."

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Drwy'r gronfa hon bydd Cyngor y Celfyddydau yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i sicrhau hyfywedd a goroesiad sefydliadau diwylliannol ledled Cymru sy'n wynebu cyfnod o her ariannol ddifrifol.

"Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd sefydliadau celfyddydol a diwylliannol sy'n chwarae rhan allweddol yn lles cymunedau ledled Cymru yn gallu dod â chysur, llawenydd ac ysbrydoliaeth wrth i ni frwydro gyda'r pandemig ac wrth i ni adfer ac ailadeiladu."


DIWEDD  21 Rhagfyr 2021