Mae ein rhaglenni Grantiau Bach a Mawr nawr ar gau tra ein bod ni’n cynnal adolygiad o’n cyllid gan y Loteri Genedlaethol. Byddwn yn dechrau cyflwyno ein rhaglenni ariannu newydd yn yr Hydref.

Yn y cyfnod 12 Tachwedd 2018-15 Chwefror 2019, roeddem ni wedi cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr â’r cyhoedd am ddyfodol arian y Loteri Genedlaethol i gelfyddydau Cymru. At ei gilydd roeddem ni wedi cwrdd â 212 o bobl yn ein cyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru a chael 164 ymateb ysgrifenedig am 12 pwnc yr ymgynghoriad.

Gallwch ddarganfod mwy am ein hadolygiad yma.

Os oes gennych grant byw ar hyn o bryd, gallwch ddefnyddio’r adran gymorth ar bob tudalen grant er mwyn dod o hyd i ddogfennau defnyddiol – megis adroddiadau cwblhau.