Fel rhan o uchelgais Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer y Gymraeg, mae’r Cyngor yn ymgymryd â phrosiect i fapio’r gweithgarwch celfyddydol yn y Gymraeg er mwyn creu darlun cyflawn a chyfredol o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru ben-baladr.

Cwblhewch y holiadur yn y GYMRAEG yma

Cefndir a chyd-destun

Mae data Cyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod lle i gredu bod modd creu a chyflawni llawer mwy trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y sector gelfyddydol, ac rydym yn credo mai trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill y medrwn ni wneud mwy i gyflawni’r potensial sy’n bodoli o fewn ein gwlad.

Mae gennym ni hawl fel dinasyddion Cymru i archwilio ein diwylliant ein hunain, ein creadigrwydd ein hunain, boed fel artist neu gyfranogwr, yn iaith ein dewis - mae Cymru wedi’r cyfan yn wlad ddwyieithog - o safbwynt y gyfraith, diwylliant a chymdeithas. Trwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sefydlwyd yr egwyddor bod y Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd cyfartal ac mae gennym yr hawl felly i ddweud ein straeon - rhai ddoe a rhai heddiw yn ein hiaith ein hunain, gan gyfrannu at Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015).

Mae ymchwil o gwmpas caffael iaith yn dangos i ni fod yr awydd i ddeall a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol yn ysgogi dysgu a defnyddio iaith. Mae’n dilyn felly bod gan y sector gelfyddydol a Chyngor Celfyddydau Cymru gyfrifoldeb a rôl bwysig i’w gyflawni o ran cyfrannu at gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.

Pwrpas yr ymchwil hwn yw canfod y lefelau presennol o weithgarwch celfyddydol yn y Gymraeg sy'n digwydd ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar weithgarwch nad yw'n cael ei ariannu ar hyn o bryd gan y Cyngor a rhoi argymhellion i’r Cyngor am y ffordd ymlaen yn unol â’i amcanion. Y gobaith yw  bydd canfyddiadau’r gwaith hwn, yn darparu sylfaen cadarn o wybodaeth y gellir adeiladu arno’n strategol at y dyfodol.

(Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â dau ddarn arall o waith sydd ar y gweill gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar hyn o bryd: cynllun Peilot er mwyn annog rhagor o weithwyr y sector gelfyddydol i ddysgu neu wella safon eu Cymraeg, a gwaith ymchwil i fapio’r gweithgarwch marchnata yn Gymraeg ar draws Cymru.)

Bydd y wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu yn arwain at argymhellion i Gyngor y Celfyddydau eu hystyried.

Bydd y contractwr yn gweithredu ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn prosesu data personol, fel y'i diffinnir gan Ddeddf Diogelu Data 2018 at y diben canlynol:

I gael gwybod y lefelau presennol o weithgarwch celfyddydol yn y Gymraeg sy'n digwydd ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar weithgarwch nad yw'n cael ei ariannu ar hyn o bryd gan y Cyngor a rhoi argymhellion i’r Cyngor am y ffordd ymlaen yn unol â’i amcanion

Gall manylion personol y cysylltiadau gynnwys un neu fwy o'r canlynol:  

  • enw
  • cyfeiriad e-bost
  • rhifau ffôn cyswllt
  • cod post

Bydd yr holl ddata personol fel y'i diffinnir gan Ddeddf Diogelu Data 2018 sy’n cael ei gasglu a’i brosesu gan yr un dan gontract at ddibenion yr ymarfer yma’n cael ei drosglwyddo i’r Cyngor ar ddiwedd y contract. Bydd y Cyngor yn dinistrio'n ddiogel fanylion personol ar gyfer unrhyw gysylltiadau unigol nad ydynt wedi mynegi diddordeb mewn ymwneud pellach â'r ymarfer yma a hynny’n syth ar ôl y trosglwyddo. Bydd y Cyngor yn cadw manylion personol unrhyw gysylltiadau unigol sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymwneud pellach yn unol â'r broses o reoli cysylltiadau rhestr bostio sydd ym mholisi preifatrwydd y Cyngor.

Gofynnir yn garedig i chi gwblhau a chyflwyno’r holiadur ar lein erbyn Mawrth 1.

Oes oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwaith mapio, cysylltwch â elenaprobert@outlook.com

Diolch o flaen llaw am gymryd rhan.