Cysylltwch â ni os hoffech gael y cyfle i weithio am dâl fel Cydweithiwr a fydd yn llywio ein rhaglenni gwaith, a llenwch fynegiad byr o ddiddordeb.

Gobeithiwn ddenu grŵp eang o bobl dalentog, i'n cynorthwyo i wneud gwaith sy’n benodol i’w gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad personol.

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â phrofiad o weithio gydag unigolion neu grwpiau o gefndiroedd a dangynrychiolir, neu sydd â phrofiad byw eu hunain o hyn. Gallai diffyg cynrychiolaeth olygu pobl sy’n wynebu rhwystrau i gyfleoedd oherwydd eu rhywioldeb, ethnigrwydd, cefndir cymdeithasol ac economaidd, neu anabledd.

Gallwch ymgeisio rhwng 7 Medi 2022 a 20 Hydref 2022.

Am fwy o wybodaeth, a sut i ymgeisio i fod yn Gydweithiwr, gweler y dogfennau isod. 

Mared Elliw Huws yn sôn am fod yn Gydymaith Celfyddydol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru