Bydd y Cynhyrchydd yn rhan o'r teulu Creu Theatr ac ef yw’r cynhyrchydd llinell ar gyfer cynyrchiadau Theatr Clwyd gartref ac ar daith. Bydd yn defnyddio gwybodaeth arbenigol sylweddol am gynhyrchu theatr a dull creadigol o wneud hynny i gefnogi’r Cyfarwyddwr Cynhyrchu i gyflwyno’r gwaith sydd wedi’i raglennu ar draws yr adeilad a thu hwnt.

Math o Gontract - Parhaol
Teulu - Creu Theatr
Arbenigedd y tîm - Cynhyrchu a Rhaglennu
Oriau - 37 awr yr wythnos
Cyflog - £35,212 - £39,402 (yn aros dyfarniad cyflog)
Gradd cyflog - M2
Yn atebol i - Cyfarwyddwr Cynhyrchu

Dyddiad cau: 05/04/2024