Mae Galeri yn ganolfan gelfyddydol fywiog yng nghalon tref Caernarfon sydd yn cyfrannu bron i £2.5m y flwyddyn i’r economi leol trwy brosiectau cynaliadwy a chreadigol sydd yn gwireddu potensial diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal.
Rydym yn edrych tua’r dyfodol gyda gweledigaeth glir: i fod yn ganolfan arloesol flaenllaw lle mae popeth yn bosibl drwy feddwl yn greadigol, gweithredu’n gynaliadwy a chydweithio gyda’n gilydd.
Ac mae’r weledigaeth honno eisoes yn dwyn ffrwyth — gyda dros 30% yn fwy o docynnau wedi’u gwerthu yn hanner cyntaf 2025 na’r un cyfnod y llynedd. Mae ein poblogrwydd yn cynyddu, a gyda hynny, rydym yn edrych am arweinydd creadigol gyda gweledigaeth artistig gref i ymuno â'n tîm blaenllaw fel Cyfarwyddwr Artistig.
Dyma rôl allweddol yn ein sefydliad sy’n ganolog i fywyd diwylliannol ac artistig gogledd orllewin Cymru. Fel Cyfarwyddwr Artistig, byddwch yn gyfrifol am lunio ac arwain y weledigaeth greadigol ar draws holl elfennau’r rhaglen – o ddrama a dawns, i gerddoriaeth, ffilm ac arddangosfeydd — gan ymestyn apêl ac enw da’r Cwmni yng Nghymru a thu hwnt, ac adeiladu ar bartneriaethau llwyddiannus ac effeithiol sydd yn rhan o lwyddiant Galeri.
Cyflwynwch Ffurflen Gais dros ebost i swyddi@galericaernarfon.com cyn 9am, bore dydd Gwener y 15fed o Awst. Mae croeso i chi ddod â copi caled i swyddfa Galeri.