Mae mynediad am ddim ac agored i gyfarfodydd Rhwydwaith WAHWN. Maen nhw’n gyfle gwych i weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau ac iechyd ddod at ei gilydd, rhwydweithio, rhannu a chlywed y newyddion diweddaraf am y sector a mentrau newydd.

Cynhelir y cyfarfod hwn mewn partneriaeth ag Artworks Cymru a bydd yn cynnwys cyflwyniad gan Gwmni Theatr Mess up the Mess ar eu rhaglen lwyddiannus Well Iawn.

Dyddiad cau: 12/03/2020