Maent yn sicrhau y gwarentir a chofnodir bob cais am arian yn gywir, bod taliadau yn cael eu gwneud yn effeithiol ac effeithlon, a bod canlyniadau’r gweithgarwch ariannu yn cael eu monitro a chofnodi yn gywir.

Mae’n amser prysur a chyffroes i’r Tîm Ariannu’r Celfyddydau. Yn ddiweddar, mae’r Cyngor Celfyddydau wedi lansio meddalwedd rheoli grantiau newydd felly bydd y Cydlynydd Tîm yn allweddol wrth gynorthwyo gyda chyflwyniad esmwyth y system newydd a’i ddatblygiad parhaus. Bydd y Cydlynydd Tîm hefyd yn cynorthwyo i weinyddu a dadansoddi cynlluniau cyllid grant newydd sy’n cael eu lansio gan y Cyngor Celfyddydau, gan gynnwys rhai pecynnau adfer Cofid.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus dealltwriaeth gynhwysfawr o weithdrefnau monitro a gwerthuso ariannol ac ymwybyddiaeth weithiol dda o ddadansoddi ac adrodd ar ddata. Byddent yn gallu gweithio ar liwt ei hun, blaenoriaethu, a gweithio’n effeithiol o dan bwysau yn ystod cyfnodau prysur. Mae sgiliau Microsoft Excel da yn arbennig o bwysig ar gyfer y rôl hon.

Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/patrwm gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol. Am ragor o fanylion a pecyn gais ewch i https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd    

Dyddiad cau:                         12:00pm canol dydd ar ddydd Gwener 7 Mai 2021

Cyfweliadau (dros fideo):    Dydd Mawrth 18 Mai 2021

Dylid anfon ffurflenni cais, yn fformat Word, i AD@celf.cymru

Noder, ni fydd CV yn cael eu derbyn.

Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2022

Gradd B: Cyflog cychwynnol o £23,419

Lleoliad: Caerdydd

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio ac chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd hen gynrychiolaeth ddigonol.

Bydd mentora neu hyfforddiant yn cael ei ddarparu i berson penodedig yn ystod y cyfnod sefydlu, os bydd angen.

Dogfen15.04.2021

Cydlynydd Tîm (Ariannu'r Celfyddydau)