Mae Theatr na nÓg yn falch i gyhoeddi bod y cwmni wedi ei wahodd i Indonesia gan y Cyngor Prydeinig i gydweithio gydag artistiaid o Indonesia ar ddrama wreiddiol y cwmni "You Should Ask Wallace."

Mae stori ysbrydoledig y dyn o Frynbuga, Alfred Russel Wallace a adawodd Cymru yn 1854 i gofnodi ffawna a fflora amrywiol yr ardal yn Indonesia, a adwaenir bellach fel rhanbarth Wallacea. Mae'r Cyngor Prydeinig felly wedi gwahodd Theatr na nÓg i gymryd rhan yn yr Ŵyl Ysbrydoliaeth, Addysg a'r Celfyddydau i ddathlu amrywiaeth rhanbarth Wallacea rhwng 22ain a’r 29ain o Dachwedd.

DywedoddCyfarwyddwr Artistig y cwmni, Geinor Styles:- "Mae'n gyfle arbennig i ni adrodd stori Gymreig Wallace i ardal sy'n dathlu ac yn cydnabod y gwyddonydd hwn,  a ddarganfyddodd theori esblygiad ar y cyd â Charles Darwin, ac mae bod yma yn y man lle ysgrifennodd Wallace yr union bapur ar y theori yn anhygoel."

Bydd Styles, ynghyd â'r actor Ioan Hefin, a greodd rôl Alfred Russel Wallace, nid yn unig yn perfformio'r ddrama wreiddiol ond yn cyd-weithio gydag actorion a chyfarwyddwr o Indonesia i'w galluogi i lunio eu fersiwn nhw eu hunain o'r ddrama fel  y gallant barhau i'w chyflwyno y ddrama o Gymru i gynulleidfaoedd lleol. "Roedd ein perfformiad cyntaf o 'You Should Ask Wallace' yn 2008. Ar y pryd roeddwn yn meddwl ein bod yn ailedrych ar ffigur hanesyddol pwysig ond anghofiedig. Rwy'n sylweddoli erbyn hyn bod Alfred Russel Wallace yn llais pwysig ar gyfer heddiw ac yfory. Yr oedd, ac y mae'n dal i fod, yn ddylanwad gweledigaethol."

Bob blwyddyn mae'r sefydliad yn creu cynyrchiadau gwreiddiol i dros 5,000 o bobl ifanc sy'n plethu perfformiad theatr gydag adnoddau dysgu creadigol digidol. Bydd y y cwmni yn rhannu ei fodel llwyddiannus o gyflwyno theatr ac addysg mewn gweithdai a symposia yn Makassar. Mae'r cwmni'n ddiolchgar i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru am gefnogi'r cyfle cyffrous hwn.

Mae'r cyfle gwych hwn yn benllanw ar flwyddyn arbennig i'r cwmni bach hwn o Gastell-nedd. Dechreuodd y flwyddyn gyda gwahoddiad arall gan y Cyngor Prydeinig i fynd â sioe gerdd llwyddiannus, sef "Eye of the Storm" i Hong Kong, sydd newydd gwblhau taith o'r DU gan ddenu adolygiadau gwych.