At The Water’s Edge, arddangosfa newydd gan yr awdur / cyfarwyddwr o Aberhonddu a'r artist Phil Clark a fydd yn cael ei chynnal yn Oriel Joanna Field Gallery yn Theatr y Torch drwy gydol fis Mawrth.

Bydd yr arddangosfa'n cynnwys cyfres o un-brintiau Clark, ysgythriadau, techneg creu argraff ac argraffiadau sgrin wedi eu hysbrydoli gan dirlun arfordirol Cymru, rhywbeth y mae Clark yn hynod angerddol amdano:  

"Mae At The Water’s Edge yn ymateb i dirlun hynod brydferth Cymru. Tirlun sy'n newid pob eiliad o amgylch pob cornel ac sy'n fy herio pob eiliad o fy mywyd ac yn cynhyrfu fy enaid gyda chyffro” meddai Clark.

Wedi ei eni ym Mhowys, Cymru, fe wnaeth Phil hyfforddi ar gyfer y Theatr a daeth yn Actor, Cyfarwyddwr, Dramodydd a Chynllunydd. Roedd yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Brifweithredwr Theatr Sherman yng Nghaerdydd am bymtheg mlynedd. Mae e bob amser wedi gweithio fel Artist Gweldol ochr yn ochr â'i waith Theatr. Gweithia'n bennaf yng nghyfrwng gouache ond mae e hefyd yn mwynhau dyfrlliwiau ac acryligion. Yn ddiweddar, mae wedi datblygu ei waith trwy dechnegau argraffu gan gynnwys technegau creu argraff, ysgythriadau, un-print a lithograffeg.

Mae At The Water’s Edge wedi rhoi'r cyfle i Clark ddarganfod technegau newydd, llefydd newydd ac yn y pen draw egni creadigol newydd o fewn ei gelf, yn enwedig paentio tirlun yr arfordir.

“Nid wyf yn gwybod beth ydyw sy’n fy nhynnu i ddŵr. Efallai ei fod yn ymwneud â byw yn Aberhonddu yng nghanolbarth Cymru .... yr wyf wrth fy modd! Nid wyf yn gwybod beth ydyw sy'n fy nhynnu i'r ymyl. Rwy’n credu ei fod yn berygl o'r anhysbys .... y ddrama .... cyffro a phosibiliadau diddiwedd o ddyfeisio!” ychwanegodd Clark.

Mae modd gweld At The Water’s Edge o ddydd Mawrth 3 i ddydd Iau 30 Mawrth yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, ac mae modd ymweld ar bob adeg pan fydd y theatr a'r caffi cyfagos ar agor. Mae mynediad i Oriel Joanna Field Gallery am ddim. Lleolir Café Torch ac Oriel Joanna Field Gallery ar lawr isaf Theatr y Torch ac mae modd myned y ddau yn hawdd.