Rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau isod. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gan ein holl ymgeiswyr am grantiau er mwyn gwneud yn siŵr bod ein harian yn cyrraedd rhychwant eang o bobl a sefydliadau.

Yn ogystal rhaid i ni adrodd hefyd, yn ein hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol, ar y rheini y mae ein harian yn eu cyrraedd yn unol â’r ‘nodweddion a ddiogelir’ a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau penodol Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011).

Ni fydd unrhyw atebion y byddwch yn eu rhoi ar y ffurflen hon yn cael effaith ar ein penderfyniad o ran eich cais am grant ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion monitro yn unig. Ni fydd y ffurflen hon yn cael ei rhannu â staff a fydd yn asesu eich cais. Ni fyddwn yn ystyried bod eich cais yn gyflawn hyd nes i’r ffurflen hon wedi ei chwblhau a‘i chyflwyno.

Gallwch ddod o hyd i’r rhif yn y neges ebost.
Rhyw
Ai dyma’ch rhyw ers eich geni?
Oedran
Statws perthynas
Cyfeiriadedd rhywiol
Crefydd/Cred
Tarddiad Ethnig
Gwyn
Asiaidd / Asiaidd Prydeinig
Du / Affricanaidd / Caribeaidd / Du Prydeinig
Grwpiau Ethnig Cymysg / lluosog
Grŵp Ethnig Arall
Sut fyddech chi’n disgrifio eich hunaniaeth ethnig?
Ydych chi’n wraig feichiog, ar gyfnod mamolaeth / dychwelyd o famolaeth?
Ydych chi’n cyfrif eich hun fel person anabl?
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio person fel anabl os oes ganddi nam corfforol neu feddyliol, sy'n cael effaith andwyol sylweddol a thymor hir ar allu'r unigolyn i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd ac sydd wedi para, neu y disgwylir iddo bara, o leiaf 12 mis.

Diolch am lenwi’r ffurflen. Bydd y wybodaeth yma’n gyfrinachol a chaiff ei drin arwahân i’ch cais.