Mae'n gyfnod cyffrous o dwf i'r Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru. 

Mae tystiolaeth gynyddol sy'n dangos sut y gall gweithgareddau creadigol gefnogi ein hiechyd a'n lles. Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith o bartneriaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a'r celfyddydau i gefnogi prosiectau a sefydliadau sy'n defnyddio grym y celfyddydau i gyfrannu at Gymru Iachach. 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â Chydffederasiwn GIG Cymru i hyrwyddo ein cydflaenoriaethau. Nodir y rhain yn ein Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth yma.
 

 

Ein gweledigaeth ar gyfer Celfyddydau ac Iechyd Cymru  
  
Rydym am i Gymru gofleidio a hyrwyddo mynediad i'r celfyddydau a chreadigrwydd fel hanfodion iechyd da i bawb.