Cefndir

Diweddariad: Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais wedi ei ymestyn hyd at 17.00 12 Gorffennaf 2022.

Hysbysir y penderfyniad am y ceisiadau erbyn 9 Awst 2022.

Mae’n grant unigryw am 6 mis i 10 unigolyn sy’n gweithio yn ein celfyddydau gweledol. Treuliwch amser yn meddwl am eich gwaith rhyngwladol, cysylltu ag artistiaid eraill yn eich maes ac yn rhyngwladol ac ystyried cyfle a her y Biennale. Hoffem gefnogi pobl â gwahanol brofiadau personol ac ar wahanol adegau yn eu gyrfa i’w helpu gyda’r rhwydweithiau, y sgiliau a’r wybodaeth i weithio’n rhyngwladol mewn ffyrdd newydd.

O Fedi 2022 hyd Chwefror 2023, cymerwch ran yn y canlynol:

• Rhaglen ddatblygu gan Artes Mundi.

• Ymchwilio ar eich liwt eich hun a chael hyfforddiant neu fentora.

• Mynd i’r Biennale neu ymchwilio iddi mewn ffordd ystyrlon.

Hoffem gefnogi unigolion sy’n wynebu rhwystr i’w huchelgais rhyngwladol. Croesawn yn arbennig geisiadau gan unigolion o gefndir a dangynrychiolir gan gynnwys oherwydd rhywioldeb, ethnigrwydd, anabledd a chefndir cymdeithasol.

5pm ar 12 Gorffennaf 2022 yw’r dyddiad cau.

Cymorth

Gweler y cwestiynau cyffredin isod.

Nodiadau cymorth gyda chyllid06.06.2022

Canllawiau Cymrodoriaeth Fenis Cymru 10

Nodiadau cymorth gyda chyllid14.06.2022

Nodiadau Briffio Cymrodoriaeth Cymru Fenis 10

Cwestiynau mynych

Gallwch. Gallwch weld y sleidiau yma https://arts.wales/cy/cymrodoriaeth-fenis-cymru-10 ac mae’r canllawiau yma https://arts.wales/cy/cymrodoriaeth-fenis-cymru-10

Rhaid defnyddio ein porth ar-lein i ymgeisio. Os dyma’ch tro cyntaf, rhaid cofrestru cyn gallu mynd i'r porth. Cofrestrwch yma.

Os cewch broblemau gyda hyn neu am gymorth arall, cysylltwch â:  grantiau@celf.cymru neu ffoniwch 03301 242733 (cyfraddau lleol yn unig)

Gall ein tîm Grantiau a Gwybodaeth eich helpu i ymgeisio ac ateb unrhyw gwestiynau gyda'r porth a’r broses ymgeisio.

Gallwch. Gydag anghenion hygyrchedd gallwch ofyn am gymorth i ymgeisio. Cysylltwch  â'n tîm Grantiau a Gwybodaeth. Gallwn helpu i dalu am amser eich gweithiwr cymorth  ac, os oes angen, gallwn helpu i ddod o hyd i un ichi.

Mae’n rhaglen yn agored i artistiaid, curaduron, awduron a gweithwyr creadigol ym maes  celfyddydau gweledol Cymru.

Hoffem gefnogi unigolion sy'n wynebu rhwystrau i ddatblygu eu huchelgais rhyngwladol.

Croesawn geisiadau gan bobl o gefndiroedd a dangynrychiolir ac sy’n wynebu rhwystrau oherwydd eu rhywioldeb, eu hethnigrwydd, eu cefndir cymdeithasol ac economaidd a’u hanabledd.

Gallwch. Ond rhaid ichi allu bodloni'r meini prawf asesu a bod yn gymwys. Rhaid bod gennych ddigon o amser i gymryd rhan yn y rhaglen a gwneud gwaith y grant cyfredol. Dylech dreulio tua 30 diwrnod ar y rhaglen rhwng 1 Medi 2022 a 28 Chwefror 2023. Eglurwch sut y trefnwch hyn yn eich cynllun. Mae’n un o’r pethau a aseswn.

Gallwch. Rhaid bod gennych ddigon o amser i wneud y rhaglen a gwaith y prosiect arall. Eglurwch sut y trefnwch hyn yn eich cynllun. Dyma un o’r pethau a aseswn. 

Gallwch. Rhaid dangos bod gennych hanes o gydweithio am o leiaf 3 blynedd a  thystiolaeth o'ch cydanghenion datblygu. Rhaid enwi un artist yn ymgeisydd arweiniol. Rhaid hefyd ddangos yn y cynnig a'r gyllideb sut y rheolwch y cydweithio gan mai dim ond un lle ac un grant o £15,000 y gallwn eu cynnig fesul cais.

Na allwch. Rhaid peidio â bod mewn addysg amser llawn (gan gynnwys astudiaethau ôl-raddedig).

Na allwch. Rhaid ichi fyw yma ar adeg ymgeisio.  

Nac oes. Ond rhaid ichi nodi eich anghenion datblygu i gyrraedd eich uchelgais rhyngwladol. Nid oes rhaid i gyfranwyr neu fentoriaid rhyngwladol fod yn yr Eidal a gallant fod yng Nghymru neu weddill Prydain.

Nac oes. Nid creu gwaith newydd yw nod y rhaglen ond eich datblygiad proffesiynol.

Na fydd. Ar sail y cais yn unig y bydd y panel yn penderfynu.

Artes Mundi a Chelfyddydau Anabledd Cymru fydd yn rheoli'r rhaglen gomisiynu. Bydd y ddau’n cyhoeddi manylion yn fuan a byddant ar ein gwefan. Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr yma.

Nid ydym wedi penderfynu eto sut y dewiswn artist i’w gyflwyno yn y Biennale.

Nid oes bwriad ar hyn o bryd. Dyma gyfle arbennig ar gyfer 10fed prosiect Fenis i gefnogi uchelgais rhyngwladol celfyddydau gweledol Cymru.

Gallwn dalu am rai costau gofal plant i’ch galluogi i gymryd rhan yn y rhaglen, yn enwedig os na allech ei wneud fel arall. Rhaid esbonio’r rhesymau am y cymorth yn eich cyllideb. Bydd yr arian wedyn ar ben y grant.

Gallwch. Er enghraifft, am weithiwr cymorth i fynd gyda chi i deithio yng Nghymru, i leoedd eraill ym Mhrydain neu dramor i’ch galluogi i gymryd rhan lawn yn y rhaglen.

Disgrifiwch sut y bwriadwch ddefnyddio'r grant o £15,000.

Cynhwyswch y taliad am eich amser: £7,500 am 30 diwrnod.

Mae costau hygyrchedd a chostau gofal plant ar ben eich grant. Nodwch eich costau disgwyliedig.

Isod mae enghreifftiau o gostau y gallech eu cynnwys.

Dylech eu cyflwyno fel tabl:

Disgrifiad o'r costau

Cost (£)

Cwrs hyfforddi

£ x

Gall fod yn: Ffi i fentor – enw'r person

£ x

Costau teithio – rhowch fanylion am eich cynlluniau

£ x

Talu am fy amser – 30 diwrnod

£7,500

Cyfanswm

£15,000

 

Disgrifiad o

gostau hygyrchedd ychwanegol

Cost (£)

Gweithiwr cymorth am x diwrnod

ar gyfer x (y gweithgaredd)

am £x y dydd

£ x

Meddalwedd arbenigol ar gyfer x

£ x

Cyfanswm

£ x

7 Mehefin 2022 oedd dechrau ymgeisio.  

Diweddariad: Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais wedi ei ymestyn hyd at 17.00 12 Gorffennaf 2022.

Hysbysir y penderfyniad am y ceisiadau erbyn 9 Awst 2022.

Cyhoeddir dyddiadau wedyn am y rhaglen datblygu proffesiynol gydag Artes Mundi.

Darllen mwy