Cefndir

Am y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol 

Mae dyddiadau cau treigl wedi cael eu hail-gyflwyno ar gyfer y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Mae hyn yn golygu y gall ceisiadau cael eu cyflwyno unrhyw bryd, gyda phenderfyniad ar eich cais dim hwyrach na 6 wythnos ar ôl ei gyflwyno. Ceir rhagor o wybodaeth yng nghanllawiau'r gronfa sydd ar gael o dan ‘Help’ isod.

Diben y gronfa: 

  • Cefnogi’r broses o ddatblygu syniadau, cydweithio a rhwydweithiau rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a phartneriaid rhyngwladol. 
  • Rhannu profiadau a sgiliau drwy’r celfyddydau mewn cyd-destun byd-eang. 
  • Codi proffil Cymru a’i chysylltiadau drwy’r celfyddydau yn fyd-eang. 

Gall y gronfa gefnogi datblygiad perthnasoedd, cydweithrediadau a rhwydweithiau rhyngwladol drwy: 

  • Gweithgarwch mewn person a gynhelir y tu hwnt i Gymru a’r DU 
  • Gweithgarwch hybrid sy’n cyfuno gweithgarwch mewn person y tu allan i Gymru a’r DU a datblygiad digidol 
  • Llwyfannau ac offer digidol 

 

Beth os oes gennyf gwestiwn neu os oes angen cymorth mynediad arnaf?

Cysylltwch â ni: +44 29 2044 1300 | info@wai.org.uk
Twitter | Facebook | Instagram

Cwestiynau mynych

Ffioedd Artist
Rydym am wneud yn siŵr eich bod chi ac aelodau o'ch tîm prosiect yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn cael eich talu'n briodol ac yn deg. Dylai eich prosiect gynnwys ffioedd i dalu am eich amser os nad yw'r costau hyn yn cael eu talu o ffynonellau eraill neu'n derbyn cyllid rheolaidd. Gall ffioedd fod hyd at 100% o wariant eich prosiect. Rhowch ddadansoddiad o'r ffioedd yng nghyllideb y prosiect.

Costau gweithgaredd artistig
Gall y rhain gynnwys costau fel teithio, cludiant, llety, per diem, yswiriant teithio, costau gweithgaredd digidol a llogi gofodau ac offer ymarfer. Gallwch hefyd gynnwys costau fel cyfieithu a dogfennu'r prosiect.

Gallwn ystyried costau sy'n ymwneud â mynediad i lwyfannau digidol ac offer os ydynt yn angenrheidiol i'r prosiect ac ni ellir eu cefnogi o rywle arall.

Costau ar gyfer gwneud eich gweithgaredd yn fwy hygyrch
Gweler ‘Beth yw costau Mynediad?’
Ystyrir y costau hyn yn ychwanegol at gostau'r prosiect.

Gwerthusiad
Costau sy'n gysylltiedig â gwerthuso'r gweithgaredd a'r prosiect.

Costau gweinyddol a gorbenion prosiect penodol:
Gallwn ystyried costau gweinyddu a gorbenion sy’n benodol i’r prosiect os na thelir amdanynt gan gyllid arall a’u bod yn amlwg yn ychwanegol, ac os nad ydych yn derbyn cyllid rheolaidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru neu ffynhonnell arall. Rhaid i chi ddangos i ni y bydd y costau'n cael eu hysgwyddo am gyfnod o amser cyfyngedig a'u bod yn uniongyrchol gysylltiedig â'ch prosiect. 

 

Mae costau mynediad yn gostau anartistig sydd wedi’u hanelu at ddileu rhwystrau i gyfranogiad i chi’ch hun, rhywun rydych yn gweithio gyda nhw neu’n eu cyflogi, neu ar gyfer cyfranogwyr neu gynulleidfaoedd sy’n ymgysylltu â’ch prosiect neu weithgaredd. Gallwn helpu i dalu costau cymorth mynediad i chi, neu unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol â datblygiad a chyflwyniad creadigol eich prosiect. Gallai’r rhain gynnwys costau dehonglydd iaith arwyddion, costau palanteipydd, gweithwyr cymorth, offer neu feddalwedd arbenigol.

Yn eich cyllideb rhowch ddadansoddiad o'r costau mynediad, er enghraifft: Gweithiwr cymorth: £ y dydd, X diwrnod.

Mae'r cyfanswm hwn ar wahân i'r swm yr ydych yn gwneud cais amdano i gyflawni'r prosiect. Bydd y cyfanswm hwn yn cael ei ychwanegu at gyfanswm y cais am grant.

Dylai costau cyfieithu eraill, er enghraifft o'r Gymraeg i'r Saesneg neu o'r Saesneg i'r Almaeneg, cael eu nodi o fewn prif gostau'r prosiect.

 

Gallwn dderbyn ceisiadau gan gydweithfeydd a rhwydweithiau artistiaid ffurfiol ac anffurfiol. i'r rhai nad oes ganddynt gyfansoddiad ffurfiol, bydd angen i un artist neu ymarferwr creadigol weithredu fel yr ymgeisydd arweiniol a fydd yn cymryd cyfrifoldeb ariannol ac adrodd.

 

Mae’n debygol y bydd cystadleuaeth sylweddol am yr arian sydd ar gael ac ni fyddwn yn gallu ariannu’r holl geisiadau cymwys a gawn. Efallai y dyfernir swm is i chi ond byddwn yn ystyried hyfywedd y prosiect mewn unrhyw benderfyniad i ddyfarnu swm is.

 

Unwaith y byddwch wedi llofnodi a dychwelyd eich Derbyniad Dyfarniad a'n bod wedi gwirio eich manylion ac unrhyw amodau grant, byddwn yn talu'r dyfarniad yn llawn. Bydd gofyn i chi gyflwyno adroddiad ar ddiwedd eich prosiect fel amod safonol o’r dyfarniad.