Cefndir

Mae'r gronfa yma ar gau ar hyn o bryd.

Mae COVID-19, ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd a’r argyfwng costau byw yn cyflwyno heriau i weithio rhyngwladol. Mae artistiaid o bob rhan o’r DU yn dal i geisio cydweithio â’u cymheiriaid o amgylch y byd, a bu eisoes enghreifftiau trawiadol o gysylltu a chyfnewid digidol.  

Nod y gronfa beilot hon yw annog cydweithio wyneb yn wyneb, cydweithio digidol, a chydweithio sy’n cyfuno’r ddau ddull: 

  • rhwng artistiaid, ymarferwyr creadigol, a sefydliadau yn y pedair cenedl drwy’r DU 

a

  • rhwng partneriaid o rannau eraill o Ewrop a’r tu hwnt. 


Mae sectorau celfyddydol a diwylliannol pedair cenedl y DU yn ffynnu ar gydweithio a chyfnewid rhyngwladol. Mae’r gronfa hon yn gwahodd artistiaid, gweithwyr diwylliannol proffesiynol a sefydliadau i ystyried sut y gellid gwella’r cydweithio hwnnw drwy weithio agosach rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. 

Cronfa beilot yw Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl gyda chydfuddsoddiad gan Arts Council England, Arts Council Northern Ireland, Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Creative Scotland.  

Bydd cyllideb gwerth £320,000 i gyd, ac rydyn ni’n disgwyl dyfarnu 40 – 50 o grantiau drwy Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.  

Creative Scotland sy’n rheoli’r broses ymgeisio ar ran cynghorau celfyddydau’r pedair cenedl.  Bydd ceisiadau’n cael eu cyflwyno drwy borth ariannu Creative Scotland, ac mae modd gwneud hynny drwy glicio ar ‘Dechrau’.

Cymorth

Anogir ymgeiswyr i gysylltu â thîm ymholiadau Creative Scotland i drafod unrhyw syniadau neu i ofyn cwestiynau, a hynny cyn gwneud cais ar-lein. Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar gael i drafod syniadau ac i helpu gydag unrhyw ofynion hygyrchedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Os bydd angen cymorth hygyrchedd arnoch chi i ddefnyddio’r dogfennau neu’r porth ymgeisio, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i info@wai.org.uk.

Cofiwch ddarllen Canllawiau Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl isod cyn ichi ddechrau gwneud cais.

Cwestiynau mynych

Er mwyn bod yn gymwys: 

  • Rhaid i’r ymgeisydd fod yn 18 oed neu’n hŷn 
  • Rhaid i’r ymgeisydd fod wedi’i leoli yn un o bedair cenedl y DU – Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban 
  • Rhaid i’r ymgeisydd fod yn ymarferydd creadigol sy’n gweithio yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol, neu’n sefydliad sy’n gweithio yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol   
  • Rhaid i’r ymgeisydd fod â chyfrif banc yn y DU yn ei enw ei hun 

Rhaid i’r ymgeisydd gael y canlynol hefyd: 

  • Ymrwymiad wedi’i gadarnhau gan o leiaf un partner artistig neu greadigol sydd wedi’i leoli yn un o’r pedair cenedl arall – Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban (gall y partner fod yn unigolyn neu’n sefydliad) 
    ac 
  • Ymrwymiad wedi’i gadarnhau gan bartner artistig neu greadigol rhyngwladol (gall y partner fod yn unigolyn neu’n sefydliad). Bydd y gronfa hefyd yn blaenoriaethu partneriaethau rhyngwladol o fewn Ewrop. 

Ar gyfer y gronfa hon, ystyr partner creadigol rhyngwladol yw  

  • rhywun nad yw’n wladolyn y DU ac sydd wedi’i leoli ac yn ymwneud ag ymarfer creadigol mewn gwlad y tu allan i’r DU  
  • sefydliad nad yw wedi’i gofrestru yn y DU ac sydd wedi’i leoli ac yn ymwneud ag ymarfer creadigol mewn gwlad y tu allan i’r DU 

Ffioedd Artistiaid: 
Rydyn ni am sicrhau eich bod chi’n talu eich hun, ac yn talu aelodau tîm eich prosiect, yn ddigonol. Dylai’ch prosiect gynnwys ffioedd i dalu am eich amser chi/eu hamser nhw. Gall y ffioedd fod yn hyd at 100% o wariant eich prosiect. Rhowch fanylion y ffioedd yng nghyllideb y prosiect, os gwelwch yn dda.  

Costau gweithgareddau artistig: 
Gall y rhain gynnwys costau fel teithio, trafnidiaeth, llety, per diems, yswiriant teithio, costau gweithgareddau digidol, a llogi gofod ymarfer a chyfarpar. Gallech hefyd gynnwys costau fel costau cyfieithu a dogfennu’r prosiect.  

Costau i wneud eich gweithgareddau’n fwy hygyrch: 
Rydyn ni’n disgwyl ichi wneud eich gweithgareddau’n hygyrch i bobl anabl os byddwch chi’n cynnwys cyfranogwyr eraill a/neu gynulleidfaoedd. Gallwch gynnwys costau fel: disgrifiad sain, BSL (Iaith Arwyddion Prydain) a dehongli drwy ieithoedd arwyddion eraill, isdeitlau a chapsiynau.  

Monitro a gwerthuso: 
Yn y fan hyn, dylech nodi’r costau sy’n gysylltiedig â monitro’ch prosiect ym mhob cam, ynghyd ag unrhyw gostau gwerthuso.  

Costau gweinyddol a gorbenion sy’n ymwneud yn benodol â’r prosiect: 
Gallwn ystyried costau gweinyddol a gorbenion sy’n ymwneud yn benodol â’r prosiect os nad yw cyllid arall yn talu amdanyn nhw, ac os ydyn nhw’n amlwg yn ychwanegol ac nad ydych chi’n cael cyllid rheolaidd gan un o’r cynghorau celfyddydau ar eu cyfer. Rhaid ichi ddangos inni y bydd y costau yn cael eu gwario am gyfnod cyfyngedig o amser yn unig, a’u bod yn ymwneud yn uniongyrchol â’ch prosiect.  

Darllenwch ganllawiau’r gronfa i gael manylion am y costau na allwn ni eu cefnogi.  

Costau nad ydyn nhw’n rhai artistig yw costau hygyrchedd, gyda’r nod o gael gwared ar bethau sy’n eich rhwystro chi rhag cymryd rhan, neu sy’n rhwystro pobl rydych chi’n gweithio gyda nhw neu’n eu cyflogi rhag cymryd rhan, neu sy’n rhwystro cyfranogwyr neu gynulleidfaoedd rhag ymwneud â’ch prosiect neu’ch gweithgaredd. Gallwn ni helpu i dalu eich costau hygyrchedd chi, neu unrhyw un sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu a darparu eich prosiect yn greadigol. Gallai’r rhain gynnwys costau dehonglwyr iaith arwyddion, costau palandeipyddion, costau gweithwyr cymorth, neu gostau cyfarpar neu feddalwedd arbenigol.  

Yn eich cyllideb, rhowch fanylion y costau hygyrchedd hyn, er enghraifft: Gweithiwr cymorth: £ y diwrnod, X o ddiwrnodau.  

Mae’r cyfanswm hwn ar wahân i’r swm rydych chi’n gwneud cais amdano i ddarparu’r prosiect ei hun. Bydd y cyfanswm yn cael ei ychwanegu at gyfanswm y cais am grant. 

Dylid cynnwys costau cyfieithu eraill, er enghraifft o’r Gymraeg i’r Saesneg neu o’r Saesneg i’r Almaeneg, ym mhrif gostau’ch prosiect.  

Gall y ceisiadau fod am weithgareddau wyneb yn wyneb, gweithgareddau digidol, neu weithgareddau sy’n cyfuno dulliau wyneb yn wyneb a digidol o weithio. Gall y gweithgareddau gynnwys cyfnewidfeydd, cyfnodau preswyl, datblygu partneriaethau, cyd-greu a rhwydweithio.  

Gallai’r gweithgareddau gynnwys un neu ragor o’r canlynol:  

  • Datblygu arferion artistig drwy weithio ar draws y DU ac yn rhyngwladol.  
  • Cydweithio ag artistiaid, ymarferwyr creadigol a sefydliadau ar draws y DU ac yn rhyngwladol. 
  • Datblygu perthnasau cynnar ag artistiaid, ymarferwyr creadigol a sefydliadau gyda’r nod mwy hirdymor o ddatblygu marchnadoedd a chynulleidfaoedd ar draws y DU ac yn rhyngwladol ar gyfer y gwaith, ynghyd â datblygu proffil rhyngwladol  
  • Cyfnewid pobl greadigol allweddol i ddatblygu cysyniadau neu berthnasau newydd  

Gallwn ystyried cynigion gan ymarferwyr creadigol a sefydliadau sy’n gweithio ar draws ystod o wahanol fathau o gelfyddyd gan gynnwys celfyddydau amlddisgyblaethol, prosiectau sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc a’r ffurfiau celfyddydol a ganlyn, a cheir rhai genres a awgrymir isod:

Llenyddiaeth

  • Barddoniaeth
  • Nofelau/Nofelau
  • Straeon Byrion
  • Gwaith seiliedig ar berfformiad
  • Sgriptio
  • Ffeithiol (traethodau a beirniadaeth)
  • Adrodd straeon
  • Llyfrau plant
  • Nofelau graffeg

Cerddoriaeth

  • Cerddoriaeth gyngerdd glasurol/cyfoes y gorllewi
  • Opera
  • Theatr gerdd a sioeau cerdd
  • Jazz a cherddoriaeth fyrfyfyr
  • Cerddoriaeth boblogaidd gyfoes
  • Cerddoriaeth draddodiadol
  • Cerddoriaeth byd
  • Grwpiau cymunedol
  • Bandiau
  • Gwyliau

Theatr

  • Lleoliadau
  • Cwmnïau sy'n seiliedig ar leoliadau
  • Cwmnïau cynhyrchu annibynnol
  • ymarferwyr theatr unigol – actorion, technegwyr, cyfarwyddwyr, dylunwyr, cynhyrchwyr a dramodwyr.

Dawns

  • Bale
  • Dawnsfa
  • Cyfoes
  • Hip hop
  • Jazz
  • Dawns Tap
  • Dawns Werin
  • Dawns Wyddelig
  • Dawns Fodern
  • Dawns Swing

Celfyddydau Gweledol

  • Paentio
  • Cerflunio
  • Argraffu
  • Arlunio
  • Delwedd Symudol

Crefft

  • Tecstilau
  • Dodrefn
  • Rhwymo llyfrau
  • Mosaigau
  • Gemwaith.

Sylwch nad yw'r rhestr uchod yn derfynol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gymhwysedd eich syniad o fewn y gronfa hon, cysylltwch â’n tîm ymholiadau.

Gallwn ni dderbyn ceisiadau gan gydweithfeydd a rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol o artistiaid. I’r rheini nad ydyn nhw wedi’u sefydlu’n ffurfiol, bydd angen i un artist neu ymarferydd creadigol weithredu fel prif ymgeisydd, a bydd yr unigolyn hwn yn gyfrifol am adrodd ac am faterion ariannol. 

Bydd swyddogion o Creative Scotland, Arts Council Northern Ireland, Arts Council England a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gwneud y canlynol:  

  • hyrwyddo’r rhaglen ac annog artistiaid amrywiol sy’n ymwneud ag amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol ac yn dod o amrywiaeth o gymunedau a lleoliadau daearyddol ar draws y DU i wneud cais
    a
  • cydweithio’n agos i werthuso’r rhaglen a datblygu ar ei llwyddiant. 

Bydd dau asesydd o grŵp o aseswyr o Arts Council England, Arts Council Northern Ireland, Cyngor Celfyddydau Cymru (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) a Creative Scotland yn asesu eich cais. Bydd y dyfarniadau wedyn yn cael eu rhoi, ar sail y sgoriau hyn, gan banel o gynrychiolwyr o’r pedwar cyngor celfyddydau.  Mae canllawiau’r gronfa’n cynnwys y meini prawf sy’n dangos sut y bydd eich cais yn cael ei asesu.  

Bydd gofyn ichi gwblhau ffurflen fonitro ar ddiwedd y prosiect, ynghyd ag ateb nifer o gwestiynau byr am eich prosiect i’n helpu ni i werthuso’r gronfa beilot hon. 

Cynllun peilot yw’r gronfa hon. Bydd yr adroddiadau a geir gan bob prosiect sy’n cael ei gefnogi yn rhan o waith gwerthuso’r pedwar cyngor celfyddydau yn y DU, wrth iddyn nhw benderfynu a oes angen y gronfa ac edrych ar y gwersi a’r canlyniadau a ddaw o’r gweithgareddau a gafodd eu cefnogi. Byddwn ni’n datblygu cyfleoedd i rannu’r gwersi hyn a’r gwaith gwerthuso. 

Yr uchafswm a gaiff ei roi am gostau prosiect yw £7,500. Fodd bynnag, bydd unrhyw gostau hygyrchedd a gefnogir drwy’r gronfa hon yn ychwanegol at hyn. 

Dim ond un cais y gall unigolyn neu sefydliad ei arwain, ond mae modd enwi pobl fel partneriaid mewn ceisiadau eraill. 

Gall y gronfa gefnogi gweithgareddau mewn unrhyw ranbarth neu wlad y tu allan i’r DU. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i weithgareddau gyda phartner neu bartneriaid yn Ewrop. 

Ni all y gronfa gefnogi celfyddydau cyffredinol na gweithgareddau creadigol mewn ysgolion. Gellir cefnogi gweithgaredd sy’n cael ei arwain gan artistiaid sy’n ychwanegol at gyflwyno’r cwricwlwm craidd ac sy’n dangos gwaith partneriaeth clir ar yr amod bod y cais yn dod oddi wrth sefydliad celfyddydol cymwys neu weithiwr llawrydd a’i fod yn ychwanegu gwerth at y profiad dysgu.

Byddai’n fuddiol gweld tystiolaeth o arfer da h.y. bod PVG (Diogelu Grwpiau Agored i Niwed)/Mynediad NI/DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) wedi’i wirio, a bod gan yr ymgeisydd Bolisi Amddiffyn Plant y gellid ei ddefnyddio o fewn y prosiect. Efallai y bydd dogfen Creative Scotland Creating Safety yn ddefnyddiol i chi wrth greu Polisi Amddiffyn Plant: https://www.creativescotland.com/resources-publications/guides-toolkits/creating-safety#:~:text=What%20is%20Creating%20Safety%3F,and%20young%20people%20in%20Scotland

Mae’n debygol y bydd cryn gystadleuaeth am y cyllid sydd ar gael, ac na fyddwn ni’n gallu rhoi arian i bob cais cymwys a ddaw i law. Efallai y cewch chi swm is, ond byddwn ni’n ystyried hyfywedd pob prosiect wrth wneud unrhyw benderfyniad i roi swm is. 

Pan fyddwch chi wedi llofnodi a dychwelyd y cadarnhad eich bod yn derbyn y grant, a phan fyddwn ni wedi gwirio eich manylion ac unrhyw amodau’r grant, byddwn ni’n talu’r swm yn llawn. Bydd gofyn ichi gyflwyno adroddiad ar ddiwedd eich prosiect, ac mae hynny’n un o amodau safonol y grant. 

Gan mai prosiect peilot yw hwn, a bod yr amserlenni ar gyfer gwneud y gwaith yn fyr, nid yw’n bosibl inni greu unrhyw ddulliau syml a fydd yn helpu ymgeiswyr i ddod o hyd i bartneriaid.  Rydyn ni felly’n annog pobl i ddefnyddio’r cysylltiadau, y perthnasau a’r rhwydweithiau sydd ganddyn nhw eisoes i lunio syniad ar gyfer prosiect o dan y gronfa hon.  Yn gyffredinol, er mwyn i bartneriaethau a chydweithio fod yn llwyddiannus, mae’n fuddiol os oes gennych chi a’ch partneriaid posibl ryw fath o ddealltwriaeth a gwybodaeth am eich gilydd ymlaen llaw. Mae hynny’n golygu bod modd cael syniad am brosiect a fydd o fudd i’r holl bartneriaid, a hwnnw hefyd yn debygol o gyflawni ei nod. 

Ydyn, at ddibenion y gronfa hon, mae hyn yn wir.

Ydw. Mae Cronfa Ryngwladol y Pedair Gwlad yn gyfle ariannu ychwanegol. Fodd bynnag, mae angen i chi wneud yn siŵr nad ydych yn gofyn am gymorth ariannol ar gyfer yr un costau ag a gefnogir drwy ddyfarniad cyllid arall.

Gallwch chi weithio gyda phartneriaid presennol. Fodd bynnag, bydd angen i chi esbonio sut y bydd y gweithgaredd arfaethedig yn wahanol i'ch gwaith blaenorol neu gyfredol gyda'ch gilydd neu'n mynd i'w ymestyn yn glir.

Nid yw arian cyfatebol yn ofynnol.

Darllen mwy