Rydyn ni’n ymrwymedig i ddatblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yn y Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i archwilio eu diwylliant eu hunain, eu creadigrwydd eu hunain, drwy eu dewis iaith, boed fel defnyddiwr, cyfranogwr neu artist.

'Mae’r Gymraeg yn drysor. Ond nid rhywbeth i’w chloi ymaith a’i harddangos o bell ydyw. Rhaid i’r iaith hefyd fod yn hoff degan i ni, yn rhywbeth i’w thrin a’i thrafod ac sy’n dod gyda ni i bob man. Rhan fawr o waith y Cyngor felly yw creu cyfleoedd i artistiaid o bob cefndir fod yn greadigol drwy’r Gymraeg a rhoi cyfle i bobl o bob cwr o Gymru a’r byd fwynhau creadigrwydd y Gymraeg. Ydi, mae’n drysor, fel hen jwg deuluol, ond job y Cyngor yw tynnu’r jwg o’r seld a’i rhoi yn nwylo ein plant, iddyn nhw gael chwarae â hi.

Tudur Hallam, aelod o'r Cyngor a Chadeirydd Pwyllgor y Gymraeg

Yn unol â Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 rhaid i bob corff cyhoeddus drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Rydym yn cyhoeddi dogfen bolisi sy’n esbonio sut yr ydym yn cydymffurfio â’r ymrwymiad hwn (medrwch ddarllen hwnnw isod).

Y Mesur hwnnw a sefydlodd Comisiynydd y Gymraeg yng Nghymru. Mae gan y Comisiynydd y cyfrifoldeb o sicrhau bod gofynion stadudol y ddeddf yn cael eu gweithredu yn unol â chyfres o Safonau.

Mae ein Hysbysiad o Gydymffurfio â gofynion Comisiynydd y Gymraeg yn amlinellu’r Safonau sy’n berthnasol i ni, a’r ddogfen Cydymffurfio â’n Safonau Cymraeg yn crynhoi’r hyn yr ydym wedi ei wneud er mwyn bodloni’r Safonau hynny.

Yn ogystal rydym yn cyhoeddi  Adroddiadau Blynyddol ar y Gymraeg. Mae’r rhain yn darparu gwybodaeth ynghylch ein perfformiad yng nghyswllt ein hamcanion, ein gofynion a’n huchelgais.