Bob blwyddyn, rydyn ni’n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol. Mae hyn yn gweithio fel adroddiad ar berfformiad, sy’n esbonio sut rydyn ni wedi rheoli ein gwaith.  Y mae hefyd yn adolygiad gweithredol sy’n dangos sut rydyn ni’n cyflawni ein hamcanion allweddol. Yn syml, mae’n giplun o’r hyn rydyn ni wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.

Am ein bod ni’n dosbarthu arian trethdalwyr er budd y cyhoedd yng Nghymru, mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys adroddiadau ariannol manwl a rhestrau o’r holl grantiau rydyn ni wedi’u cynnig yn ystod y flwyddyn.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Cyngor Celfyddydau Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Cyfieithiad Cymraeg

Rwyf wedi ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol hyn yn eu ffurf wreiddoil. Mae’r fersiwn hon yn gyfieithiad o’r fersiwn Saesneg wreiddiol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad hyn.