Cefndir

Rydym yn falch o gyhoeddi canlyniad yr Adolygiad Buddsoddi, y broses sydd yn penderfynu sut bydd £29.6m o arian cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu i wahanol sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.

Mae’r holl wybodaeth o ran y penderfyniadau a’r rhesymau drostynt i’w gweld yn yr adroddiad isod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag adolygiadbuddsoddi@celf.cymru

Dyma ddatganiad i’r wasg ar gyfer yr Adolygiad Buddsoddi.

Cwestiynau mynych

Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff swyddogol sy’n datblygu, cefnogi a chysylltu'r celfyddydau. Rydym yn gwneud hyn drwy ddosbarthu'r arian cyhoeddus sydd ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru a'r arian a gawn ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.

Yr Adolygiad Buddsoddi yw sut mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn penderfynu pa sefydliadau creadigol sy'n cael arian aml-flwyddyn drwy broses ymgeisio gystadleuol am grantiau. Mae’r sefydliadau hyn yn hollbwysig wrth gyflawni ein blaenoriaethau strategol trwy ein 6 egwyddor: Creadigrwydd, Ehangu Ymgysylltiad, Y Gymraeg, Cyfiawnder Hinsawdd, Meithrin Talent, a Thrawsnewid.

Cynhaliwyd yr Adolygiad Buddsoddi diwethaf yn 2015. Byddai'r un presennol wedi digwydd yn gynharach ond cafodd ei oedi oherwydd y pandemig.

Bydd sefydliadau llwyddiannus yn cael eu hariannu am gyfnod cychwynnol o 3 mlynedd o flwyddyn ariannol 2024/25 ymlaen, yn amodol ar berfformiad ac ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Mae'r broses a’r amcanion yn adlewyrchu’r 6 egwyddor craidd a restrir uchod. Bydd yr egwyddorion hyn yn sail i’n Cynllun Strategol 10 mlynedd newydd a gyhoeddir yn 2024, ac maent wedi'u llunio drwy ystyried ystod eang o bolisïau a strategaethau perthnasol yng Nghymru wnaeth fwydo mewn i’n Canllawiau i Sefydliadau a gyhoeddwyd.

Ymhlith eraill, mae'r rhain yn cynnwys saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), y Pum Ffordd o Weithio, Contract Diwylliannol a Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, y Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad a Chynllun Strategol Cyngor Celfyddydau Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Yn yr Adolygiad Buddsoddi eleni, cawsom y nifer uchaf erioed o geisiadau, gyda 139 sefydliad yn gymwys i gael arian, o'u cymharu â 94 pan gynhaliwyd yr adolygiad diwethaf yn 2015.

Er bod hyn yn galonogol ac yn dangos cryfder y celfyddydau ledled Cymru, mae hyn hefyd yn golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd oherwydd bod cyfanswm y gofynnwyd amdano gan sefydliadau bron yn £54 miliwn o'i gymharu â'n cyllideb bresennol sydd ar gael o £28.7 miliwn.

Yn amlwg, ni allai pob sefydliad gael ei ariannu na'i ariannu i'r un lefel y gofynnwyd amdano.

Mae 81 sefydliad ledled Cymru wedi cael cynnig amodol o arian, cynnydd o gymharu â’r 67 a ariannwyd yn 2015.

Byddant yn rhannu £29.6 miliwn, cynnydd o £900,000 mewn termau ariannol ar y £28.7 miliwn a oedd ar gael o’r blaen.

Caiff 23 sefydliad eu hariannu am y tro cyntaf. Ymhlith eraill, mae'r rhain yn cynnwys Celfyddydau Sitrws (Trehopcyn), Common Wealth (Caerdydd), Oriel Elysium (Abertawe), Ffocws Cymru (Wrecsam), People Speak Up (Llanelli), Cwmni Theatr Taking Flight (Caerdydd), Theatr Byd Bychan (Aberteifi), Neuadd Ogwen (Bethesda) a’r Urban Circle (Casnewydd).

Ar draws y deuddeg sector creadigol sy'n gwasanaethu'r celfyddydau yng Nghymru, mae deg ohonynt yn cael yr un lefel o arian neu ragor nag o'r blaen.

Mae'r Adolygiad Buddsoddi yn canolbwyntio ar 6 egwyddor yr oedd yn ofynnol i bob sefydliad ariannu ddangos eu hymrwymiad iddynt.

  • Creadigrwydd
  • Ehangu ymgysylltiad
  • Y Gymraeg
  • Cyfiawnder hinsawdd
  • Meithrin talent
  • Trawsnewid

Ystyriwyd pob cais yn ôl ei rinweddau ond roedd Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn cymryd golwg ledled Cymru ar gyfres o ffactorau cydbwyso fel bod y ceisiadau, yn gyffredinol, yn cael eu hystyried gyda’i gilydd.

Dyma’r ffactorau cydbwyso:

  • Gwasanaethu cymunedau ledled Cymru
  • Amrywiaeth eang o gelfyddydau a chyfleoedd creadigol
  • Lleisiau heb eu hariannu a heb eu clywed
  • Gwerth cyhoeddus
  • Maint a siâp sefydliadau sy'n ymgeisio

Mae ein hadroddiad naratif a gyhoeddir – Adolygiad Buddsoddi 2023 Adroddiad a Phenderfyniadau - yn esbonio sut ymatebodd yr ymgeiswyr i'n 6 egwyddor.

Aseswyd y ceisiadau oddi wrth sefydliadau unigol ar sut roeddent yn bodloni'r 6  egwyddor ac yna ystyriwyd y ffactorau cydbwyso. Pan ddangosodd ein hasesiad fod angen cymryd camau pellach i sicrhau cydbwysedd ar draws y ffactorau, rydym wedi ymrwymo i gynnal ymyrraeth strategol a thargedol i gyflawni hyn.

Yn ystod proses yr Adolygiad Buddsoddi dechreuon ni gydnabod bod anawsterau neu fylchau posib yn y ddarpariaeth ac roeddem wedi dyrannu £1.4 miliwn i ymgymryd â chyfres o ymyriadau strategol i'n helpu i fynd i'r afael â'r problemau.

Er nad yw fformat yr ymyriadau strategol wedi’i bennu o hyd, rydym wedi gwneud ymrwymiadau mewn 14 maes, gan gynnwys cynrychiolaeth anabl mewn theatrau drwy RAMPiau Cymru, adolygiad o theatr Saesneg, adolygiad o ddawns gymunedol ac adolygiad o gerddoriaeth draddodiadol.

Mae ein adroddiad a gyhoeddwyd yn cynnwys rhestr o’r holl ymyriadau strategol a nodwyd drwy broses yr Adolygiad Buddsoddi.

  • Cynhaliom ymgynghoriad helaeth â dros haf 2022, gan wahodd ymatebion gan y cyhoedd, sefydliadau celfyddydol, a rhanddeiliaid eraill.
  • Yn dilyn adborth o’r broses ymgynghoriad, cyhoeddom ein Canllawiau i Sefydliadau yn Rhagfyr 2022 gan egluro'r broses a'r amserlen.
  • Eglurom fod proses 4 cam oedd yn cynnwys asesu pob cais yn unigol yn ôl y 6 egwyddor, yna grŵp arbenigol a oedd yn ystyried y ceisiadau. Yng ngham 3, cyflwynom ein ffactorau cydbwyso a chynnal proses sicrhau ansawdd, yn olaf, yng ngham 4, gwnaeth aelodau o'r Cyngor eu penderfyniad, yn seiliedig ar yr holl wybodaeth a oedd o'u blaen.
  • Roedd sefydliad annibynnol wedi archwilio ein proses i sicrhau ein bod yn dilyn ein gweithdrefnau’n gywir a chawsom sicrwydd sylweddol o hynny.
  • Yn dilyn cyhoeddiad y Cyngor, agorir broses apelio. Gall unrhyw sefydliad sy’n aflwyddiannus yn ei cais gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad yn unol â’n canllawiau Proses Apeliadau cyhoeddedig. Bydd adolygydd allanol yn ystyried yr apêl ac os ydym wedi dilyn yn gywir y broses yr ydym wedi ymrwymo iddi.
  • Os caiff apêl ei chadarnhau, bydd y Cyngor yn ystyried y penderfyniad a’r argymhellion o’r broses apêl mewn cyfarfod ym mis Rhagfyr.
  • Bydd sefydliadau a ariannwyd fel rhan o’r Portffolio cyfredol yn gymwys i gael cymorth pontio os nad oeddent yn llwyddiannus yn eu cais am arian aml-flwyddyn yn yr Adolygiad Buddsoddi, ond byddant hefyd yn gymwys ar gyfer ein grantiau eraill fel Camau Creadigol a Chreu ymhlith eraill.

Yn anffodus, roedd 58 sefydliad yn aflwyddiannus y tro yma.

Ni lwyddodd 9 sefydliad a oedd yn cael arian aml-flwyddyn o'r blaen:

Eleni; Hafren; Celf ar y Blaen; Impelo; Opera’r Canolbarth; National Theatre Wales; Dawns Rubicon; Trac Cymru; Canolfan Celfyddydol Taliesin.

Mae yna broses apelio cyhoeddedig y gellir ei dilyn gan sefydliadau aflwyddiannus a fydd dan arweiniad adolygydd allanol. Mae gan sefydliadau 21 diwrnod calendr i wneud apêl. Os yw'r adolygydd allanol yn cael bod rheswm dilys dros apelio, yna bydd y Cyngor yn ystyried y yr argymhellion o’r broses mewn cyfarfod ym mis Rhagfyr.

Mae’r sefydliadau sydd yn rhan o’r Portffolio cyfredol na fydd yn derbyn cynnig aml-flwyddyn yn gallu gwneud cais am arian pontio i'w cefnogi drwy'r cyfnod anodd yma.

Gall pob un o'r sefydliadau aflwyddiannus wneud cais am grantiau eraill gennym a gallent hefyd ymgeisio eto yn y dyfodol am arian aml-flwyddyn.

Cymru yw'r unig wlad lle mae'r celfyddydau Cymraeg yn cael eu creu’n broffesiynol ac mae ein cefnogaeth i'r Gymraeg yn adlewyrchu hyn. Roedd y Gymraeg yn un o'n 6 egwyddor a bydd rhagor o sefydliadau Cymraeg yn cael eu hariannu nag o'r blaen, gan gynnwys Theatr Soar (Merthyr Tudful) ac Oriel Plas Glyn Y Weddw (Llanbedrog). Mae cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch Cymraeg.

Mae buddsoddiad mewn lleoliadau a sefydliadau creadigol sy'n gwasanaethu cymunedau Cymraeg. Golyga hyn fod Ceredigion a Gwynedd ymhlith y rhai sy'n cael y gwariant celfyddydol uchaf fesul person ac wrth gwrs mae Sir Gâr yn gartref i Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Ehangu Cyfranogiad yn un o 6 egwyddor yr Adolygiad Buddsoddi.

Drwy hyn, bydd yr Adolygiad Buddsoddi’n dod ag ystod ehangach o amrywiaeth i'r celfyddydau yng Nghymru, gydag arian ar gyfer sefydliadau dan arweiniad pobl fwy amrywiol yn ddiwylliannol ac ethnig, gan gynnwys Fio a Jukebox Collective (Caerdydd), yn ogystal â chynrychiolaeth gynyddol o bobl F/fyddar ac anabl ar fyrddau sefydliadau. Mae ein hymrwymiadau'n cynnwys cefnogi RAMPiau Cymru i wella cynrychiolaeth pobl anabl ar draws y sector theatr yng Nghymru.

Mae llawer o sefydliadau newydd wedi'u datblygu drwy ymyraethau fel Camau Creadigol dros y blynyddoedd gyda chwmni theatr Taking Flight ac Urban Circle ymhlith y buddiolwyr. Ond gwyddom fod gwaith i'w wneud o hyd i ddod â rhagor o amrywiaeth a chynrychiolaeth i'r sector. Byddwn yn parhau i gynyddu’r gwaith drwy weithgarwch ein Hasiant er Newid ac mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys sefydlu rhwydweithiau rhanbarthol ar gyfer cymorth gan eraill yn y maes.

Rydym wedi penderfynu gwneud pethau'n wahanol o hyn ymlaen.

Rydym am i'r Adolygiad Buddsoddi yma fod yr un olaf o ddigwyddiadau ariannu mor fawr. Yn hytrach rydym am symud i ffordd fwy ymatebol o weithio sy'n ein galluogi i gymryd golwg hirdymor ar ein harian.

Bydd system newydd o gytundebau ariannu aml-flwyddyn yn caniatáu rhagor o hyblygrwydd. Bydd sefydliad llwyddiannus yn cael tymor ariannu cychwynnol o 3 blynedd, gyda chyfarfod ym mlwyddyn 2 a'r opsiwn i gael tymor pellach.

Mae hyn yn golygu bod potensial i gael perthynas ariannu barhaus, cyn belled â bod y targedau yn y cytundeb ariannu blynyddol yn cael eu cyflawni (yn amodol ar argaeledd yr arian yn ein cyllideb). Bydd hefyd yn caniatáu i sefydliadau creadigol newydd ymuno â'r cynllun yn y dyfodol.

Mae 15 sefydliad wedi apelio yn erbyn penderfyniad cychwynnol y Cyngor.

Fel yr esboniwyd yn ein proses apelio sydd wedi’i gyhoeddi, yn y lle cyntaf bydd adolygydd allanol sy'n annibynnol ar Gyngor Celfyddydau Cymru yn ystyried unrhyw apêl. Bydd y sefydliad a'r Cyngor yn cael gwybod mewn 16 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad cau os oes  sail i’r apêl.

Os oes, bydd panel annibynnol ar wahân yn cyfarfod mewn 28 diwrnod calendr arall i ystyried yr apêl a bydd yr ymgeisydd a'r Cyngor yn cael gwybod am ei argymhelliad 7 diwrnod calendr ar ôl hynny.

Yn ei gyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr bydd y Cyngor yn ystyried argymhellion y panel.

Bydd pob sefydliad a fu'n aflwyddiannus yn yr Adolygiad Buddsoddi yn gallu gwneud cais am grantiau eraill sydd ar gael gan y Cyngor. Bydd hefyd yn gallu gwneud cais yn y dyfodol am arian amlflwyddyn. Bydd sefydliadau aflwyddiannus a oedd yn aelodau o Bortffolio Celfyddydol Cymru hefyd yn gymwys i gael cymorth pontio i'w cynorthwyo i ymaddasu.

Ar ôl ystyriaeth gan yr adolygydd allanol annibynnol, cawsom wybod y derbyniwyd sail i apêl gan un sefydliad. Yn wreiddiol 15 a apeliodd yn erbyn penderfyniad Adolygiad Buddsoddi'r Cyngor.

Bydd Panel Apêl annibynnol nawr yn cwrdd i ystyried yr apêl yn llawn. Bydd y panel yn derbyn copi llawn o'r apêl ac unrhyw ymateb gan y Cyngor o leiaf 7 diwrnod calendr cyn dyddiad y gwrandawiad. Bydd y gwrandawiad yn fodd i bob aelod o'r Panel ddeall yn llawn y rhesymau dros benderfyniad y Cyngor, a sail yr apêl, er mwyn gallu gwneud penderfyniad teg.

Bydd yr ymgeiswyr a'r Cyngor yn cael gwybod am argymhelliad y Panel saith diwrnod calendr ar ôl y gwrandawiad. Bydd y Cyngor wedyn yn ystyried yr argymhellion yn ei gyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr.

Mae gwybodaeth am y broses apelio yma.

Gall pob sefydliad a fu'n aflwyddiannus yn yr Adolygiad Buddsoddi ymgeisio am grantiau eraill sydd ar gael gan y Cyngor.Bydd sefydliadau aflwyddiannus a oedd yn aelodau o Bortffolio Celfyddydol Cymru hefyd yn gymwys i gael cymorth pontio i’w cefnogi yn eu haddasiad.

Darllen mwy