Cyfle:

Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am wasanaethau Cynhyrchydd Creadigol egnïol, cydweithredol a phrofiadol i arwain a chyflwyno digwyddiad perfformiad awyr agored gyda’r cwmni Matsena Productions. Bydd y perfformiad yn gyfuniad o gelf, cerddoriaeth a chwaraeon stryd, sy’n ymateb i gyflwyniad bregddawnsio, dringo, sglefrfyrddio, a syrffio yn Chwaraeon Olympaidd Paris 2024. Ar hyn o bryd, mae'r perfformiad wedi'i drefnu ar gyfer penwythnos 5 Hydref 5, 2024 ym Mharc yr Amgueddfa, Abertawe (efallai y bydd lleoliadau ychwanegol yng nghanol y ddinas yn bosib).

Bydd disgwyl i'r Cynhyrchydd gydweithio â'r Brodyr Matsena ac arwain gweithredoedd er mwyn cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb, gan weithio gydag aelodau o adrannau’r celfyddydau, digwyddiadau a chwaraeon Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe. Bydd disgwyliad hefyd i ymgysylltu â chymunedau amrywiol Abertawe a gweithio gyda hwy yn y cyfnod cyn y digwyddiad, gan annog cyfranogiad cymunedol ar gyfer y perfformiad ym mis Hydref. Bydd y digwyddiad yn targedu grwpiau o genedlaethau amrywiol a'i nod yw ymgysylltu â'r rheini sy'n frwd dros y celfyddydau a chwaraeon trefol a'r rheini sy'n newydd i'r disgyblaethau hyn, fel cyfranogwyr a chynulleidfaoedd.

Ariennir rôl a digwyddiad y Cynhyrchydd Creadigol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n rhan o agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU.

Ffi: hyd at £25,000

I gael ffurflen gais, cysylltwch â: kate.wood@abertawe.gov.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:  16 Chwefror 2024

Dyddiad cau: 16/02/2024