Heddiw atgoffodd Cyngor Celfyddydau Cymru ymgeiswyr posib bod yr ail rownd ar gyfer cyflwyno cais i’w Chronfa Ymateb Brys ar gyfer Unigolion yn cau ymhen ychydig ddyddiau. Mae'r gronfa yn rhan bwysig o gefnogaeth gyffredinol y Cyngor i’r gymuned greadigol yn ystod coronafeirws.

Agorodd yr ail gyfnod ar gyfer cyflwyno cais i’r gronfa ar 28 Ebrill ac mae’r ail rownd hon yn cau i geisiadau am 5pm, dydd Mercher 6ed Mai.

Mae'r Gronfa Ymateb Brys i Unigolion ar gyfer ymarferwyr creadigol llawrydd sy'n profi caledi ariannol neu'n colli incwm oherwydd coronafeirws. Mae hwn yn arian brys yn y tymor byr i alluogi unigolion i oroesi'n ariannol ac yn greadigol.

Mae'r gronfa’n helpu unigolion i ddiwallu eu hanghenion ariannol mwyaf tra byddant yn chwilio am gymorth posibl o'r Llywodraeth neu am ffyrdd eraill o gynnal eu gweithgarwch.

Mae'r gronfa ymateb brys yn elfen o gronfa Wytnwch y Celfyddydau a sefydlodd y Cyngor ar y cyd â Llywodraeth Cymru gydag arian o'r Loteri Genedlaethol a chyfraniadau gan Dŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Freelands. Gwerth y gronfa wytnwch i’r celfyddydau yn ei chrynswth yw £7.5 miliwn.

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am roi'r cyfle gorau i artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol oroesi coronafeirws a darparu cefnogaeth iddynt ymsefydlogi a chynnal eu busnes yn ystod y misoedd nesaf.

“Ein gobaith yw y bydd y pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig yn cynorthwyo’r llu o unigolion a gweithwyr creadigol llawrydd sy’n brwydro yn erbyn caledi mawr oherwydd coronafeirws."