Cefndir

Coronafeirws: ceisiadau newydd am arian

Rydym ni am wneud ein gorau glas i fuddsoddi mewn artistiaid a sefydliadau celfyddydol ar yr adeg anodd yma. Mae'n amlwg bod llawer o bobl yn wynebu dyfodol ansicr gydag anawsterau newydd yn ymddangos yn ddyddiol. Yn y tymor byr ein blaenoriaeth fydd dod o hyd i ffyrdd effeithiol o ymateb i anghenion brys y sector. Gyda Llywodraeth Cymru rydym ni’n gweithio'n galed i ddod o hyd i atebion ymarferol. 

Rydym yn adolygu ein cynllun grantiau a byddwn yn cyhoeddi manylion rhaglenni a fydd ar agor o Ebrill 1af 2021 yn fuan. Yn y cyfamser, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, tanysgrifiwch i'n cylchlythyr yma a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

Os ydych chi’n sefydliad yng Nghymru neu yn yr Undeb Ewropeaidd, mae’n bosibl byddwch chi’n gymwys i wneud cais am grant bach o hyd at £10,000.

Os ydych chi wedi cael grant gennym o’r blaen, gallwch chi wneud cais am grant mawr, rhwng £10,001 a £50,000.

Mae rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwyster a sut i wneud cais yn y ddogfen canllawiau isod. Ond cyn bwrw ati, darllenwch y ddogfen yn ofalus i ateb rhai o’ch cwestiynau a’ch helpu i ddeall pa fath o brosiectau rydym ni am eu cefnogi.

Yn benodol, darllenwch yr adrannau am y math o sefydliadau a all wneud cais, a’r wybodaeth y byddwn ni’n gofyn amdani.

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid07.04.2021

Canllawiau Ariannu’r Loteri Genedlaethol

Nodiadau cymorth gyda chyllid07.10.2019

Nodiadau cymorth ymgeisio: Grantiau Bach a Mawr argyfer sefydliadau

Nodiadau cymorth gyda chyllid30.09.2019

Templed cyllideb prosiect grantiau bach a mawr

Nodiadau cymorth gyda chyllid15.10.2019

Gwneud eich gwaith yn hygyrch

Dechrau

Rhaid i’ch sefydliad:
 

  • bod yng Nghymru, yn rhan arall o Brydain neu yn yr Undeb Ewropeaidd
  • cael strwythur llywodraethu sy’n bodloni ein gofynion (gweler yr adran llywodraethu yn y Canllawiau)
  • cael cyfrif banc yn enw eich sefydliad sydd ag o leiaf dau berson sy’n gallu awdurdodi trafodion (gweler yr adran cyfrif banc yn y Canllawiau)
  • cael polisi cyfle cyfartal sydd wedi’i adolygu gan eich corff llywodraethu yn y tair blynedd diwethaf ac sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol
  • peidio â bod yn ddiffygiol mewn unrhyw gytundeb ariannol â Chyngor Celfyddydau Cymru
  • peidio â chael unrhyw ofynion hwyr ar unrhyw arian arall gan Gyngor Celfyddydau Cymru