Cefndir

Sylwer y byddwn yn gwneud rhai mân newidiadau i'r ffurflen gais Ewch i Weld yn ystod 21 – 29 Mawrth. Er mwyn ein galluogi i wneud y newidiadau hyn mae angen i ni gau'r gronfa dros dro.

Ni fyddwn yn gallu derbyn ceisiadau i’r gronfa yn ystod y cyfnod hwn. Os hoffech gyflwyno'ch cais gan ddefnyddio'r cais rydych wedi'i ddechrau, a fyddech cystal â sicrhau eich bod wedi cyflwyno erbyn 5pm 21 Mawrth. Bydd methu â gwneud hynny yn golygu y bydd eich cais presennol yn cael ei ddileu, a bydd angen i chi ddechrau eich cais gan ddefnyddio'r ffurflen newydd.

 

Sylwch mai dim ond un grant Ewch i Weld neu un grant Ewch i Greu gellir fod ar agor gan eich ysgol ar unrhyw un adeg. Ni fyddwn yn gallu asesu cais newydd gan eich ysgol nes bod eich adroddiad cwblhau grant gweithredol wedi'i dderbyn a bod y grant wedi'i gau.

Mae Ewch i Weld yn gronfa y gellir ei ddefnyddio er mwyn ariannu ymweliadau â digwyddiadau celfyddydol o safon mewn orielau, theatrau, canolfannau celfyddydol a lleoliadau eraill. Gallai digwyddiadau gynnwys ymweld â pherfformiadau ac arddangosfeydd neu fynd i weld unigolion celfyddydol proffesiynol yn datblygu a chreu gwaith.

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid05.10.2021

Cronfa Ewch i Weld 2021

Nodiadau cymorth gyda chyllid19.01.2022

Cwestiynau i’r gronfa Ewch i Weld

Cwestiynau mynych

Dylech chi gyflwyno eich cais o leiaf 5 wythnos waith cyn dyddiad eich ymweliad. Rydym ni’n ceisio rhoi gwybod ichi am y penderfyniad mewn 4 wythnos o’r dyddiad cau.

Na allwn. Mae'r gronfa hon yn fodlon talu am docynnau a chludiant yn unig.

Na ellwch. Nod y gronfa yw talu am gost profiadau celfyddydol o safon na allai ddigwydd heb y grant hwn. Ar ôl clywed bod y grant wedi’i ddyfarnu ichi, gellwch brynu tocynnau os gall eich ysgol dalu am y tocynnau cyn derbyn yr arian ei hun yng nghyfrif yr ysgol. Ni fydd hynny’n broblem. Ond ni allwn ariannu gweithgarwch sydd eisoes wedi’i gynllunio neu sydd eisoes yn digwydd. Ni allwn ariannu’n ôl-weithredol brofiadau Ewch i Weld.

Os dyfarnwyd grant Ewch i Weld i'ch ysgol o'r blaen, bydd angen i chi fod wedi anfon adroddiad gwerthuso atom i gau'r grant hwnnw cyn gwneud cais am un newydd. Gallwch gysylltu â ni yn dysgu.creadigol@celf.cymru os ydych chi'n ansicr a oes gennych chi grant agored.

Disgwylir i ysgolion gyflwyno eu hadroddiad cwblhau cyn gwneud cais i'r Gronfa Ewch i Weld ac i'r gwrthwyneb. Gallwch gysylltu â ni ar dysgu.creadigol@celf.cymru os ydych chi'n ansicr a oes gennych chi grant agored.

Fel rheol, na allwch. Nod yr arian yw cael disgyblion i brofi celfyddyd o safon mewn lleoliadau celfyddydol o safon y tu allan i'r ysgol. Ond dan amgylchiadau eithriadol lle gallwch nodi'n glir pam y byddai raid i’r profiad celfyddydol o safon ddigwydd yn yr ysgol, mae’n bosibl y gallai’r panel ystyried rhoi grant ichi.

Peidiwch ag anfon yr arian cyfatebol yn uniongyrchol atom. Disgwyliwn i’r arian cyfatebol o 10% ddod o arian yr ysgol, costau mewn nwyddau neu arian a godir, er enghraifft.

Nid yw hyn yn eich atal rhag gwneud cais, ond dylai eich cais nodi pryd rydych chi’n rhagweld y bydd yr ymweliad yn digwydd.

Gall. Gall unrhyw ysgol a gynhelir ymgeisio am grant Ewch i Weld.

Na allwch. Mae'r rhaglen wedi'i chlustnodi ar gyfer plant oedran ysgol, o oed meithrin hyd at 16. Ni allwn ni ariannu addysg ôl-16, gan gynnwys colegau addysg bellach a'r chweched dosbarth.

Gallwch, gallwch wneud cais am grantiau lluosog o hyd at £1,000 trwy gydol y flwyddyn academaidd. Ond dim ond un grant y gallwch chi ei agor ar y tro. Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan ysgolion nad ydynt wedi ymgysylltu â'r gronfa.

Bydd angen i chi gofrestru'ch ysgol ar ein porth ar-lein cyn llenwi ffurflen gais. Ar ôl i chi gofrestru ar y porth ar-lein byddwch yn gallu cyrchu'r ffurflen gais. Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru'ch ysgol ar ein porth o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn eich bod yn dymuno cychwyn eich cais.

Os oes angen cymorth pellach arnoch i gyrchu'r porth ar-lein, cysylltwch â ni trwy: 03301 242733 (llinell gymorth) pob galwad a godir ar brisiau lleol neu e-bostiwch: dysgu.creadigol@celf.cymru

Os yw canslo yn effeithio ar eich archeb, dylech gysylltu â'r lleoliad cynnal i drafod yr opsiynau. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio gyda'r lleoliad, cyn archebu'r tocynnau, beth yw eu polisi mewn perthynas ag ad-daliadau a chyfnewidiadau a achosir gan covid-19 / coronavirus.

Disgwylir i hyn fod yn wahanol o leoliad i leoliad, ond bydd lleoliadau cynnal yn cyfleu'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd ganddyn nhw. Os yw perfformiad yr ymweliad yn cael ei ganslo ac mae angen i chi archebu gweithgaredd gwahanol. Rhowch wybod i ni. Gallwch roi gwybod i ni a yw'r dyddiad yn newid yn eich adroddiad cwblhau.

 

Ni fyddwn yn gallu ariannu eich prosiect os bydd yn digwydd cyn i ni ysgrifennu atoch gyda'n penderfyniad.

Darllen mwy
Dechrau

Dylid nodi y gall gymryd hyd at 5 diwrnod i'r cod cofrestru gyrraedd, felly gofynnir i ddarpar  ymgeiswyr ganiatáu amser ar gyfer hyn.

Os ydych wedi derbyn grant gennym yn y gorffennol, cysylltwch â ni i gael cod adbrynu gan y byddwch eisoes wedi'ch cofrestru ar y porth.

Os cewch chi unrhyw drafferthion gyda chofrestru neu'r broses ymgeisio, e-bostiwch dysgu.creadigol@celf.cymru i ofyn am gymorth.